Bydd gwasanaethau rheilffordd reolaidd yn rhedeg rhwng Glynebwy a Chasnewydd am y tro cyntaf ers dros 60 mlynedd, yn dilyn buddsoddiad o £70m gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd y gwasanaeth ei lansio gan Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, ddydd Iau (Chwefror 1).
Bydd yr arian, gafodd ei fenthyg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, yn galluogi 30 o drenau i redeg rhwng y ddau leoliad bob dydd.
Dywed Lee Waters ei fod yn “falch iawn bod y gwasanaeth rhwng Glynebwy a Chasnewydd ar waith o’r diwedd”.
“Mae wedi cymryd amser hir ac wedi gofyn am lawer o fuddsoddiad ond bydd dyblu amlder trenau yn gwneud gwahaniaeth i’r holl gymunedau ar hyd y lein hon,” meddai.
“Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb fod Llywodraeth Cymru wedi camu i’r adwy gyda buddsoddiad.”
Ychwanega fod y prosiect wedi’i orffen o fewn y terfyn amser ac o fewn y gyllideb.
“Nawr, gall pobol deithio’n uniongyrchol i Gasnewydd neu Gaerdydd bob awr, nid yn unig ar drac newydd ond ar drenau newydd hefyd,” meddai.
Ailddechreuodd gwasanaethau ar reilffordd Glynebwy i deithwyr yn 2008, ar ôl iddyn nhw ddod i ben yn 1962.
Yn ystod deunaw mis cynta’r gwasanaethau newydd yn 2008, teithiodd mwy na miliwn o bobol ar y rheilffordd.
Bydd buddsoddiad pellach o £800m gan Lywodraeth Cymru er mwyn dechrau rhedeg trenau newydd ar y lein yn y gwanwyn.
Trafnidiaeth hygyrch yn ‘flaenoriaeth’
Dywed y Cynghorydd John Morgan, yr Aelod Cabinet Lle ac Adfywio a Datblygu Economaidd yng Nghyngor Blaenau Gwent, fod “gwella a darparu trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor”.
“Heb os, bydd gwasanaeth rheilffyrdd amlach yn gwella cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddi, cyfleoedd gwaith yn yr ardal a’r tu allan iddi ac yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus i bawb ym Mlaenau Gwent,” meddai.
“Bydd y gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol newydd i Gasnewydd hefyd yn ei gwneud yn haws i’r bobol hynny sydd am gysylltu â gwasanaethau eraill er mwyn teithio i gyrchfannau eraill ar gyfer hamdden a busnes.”
Yn ôl Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybrau Network Rail ar gyfer Cymru a’r Gororau, bydd y buddsoddiad yn creu swyddi ynghyd â chyfleoedd hyfforddi i bobol leol.
Ychwanega y bydd hefyd yn annog mwy o bobol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, wrth i Gymru weithio tuag at dargedau datgarboneiddio.
“Hoffwn hefyd ddiolch i deithwyr a chymunedau am eu hamynedd wrth i ni gwblhau’r uwchraddiad hwn ac atgoffa pobol, yn sgil cyflwyno gwasanaethau newydd, y dylen nhw fod yn arbennig o ofalus ger croesfannau rheilffyrdd,” meddai.