Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod dweud na fyddan nhw’n dibynnu ar ddur wedi’i fewnforio wedi i waith dur Port Talbot gau.
Mae swyddi hyd at 2,800 o weithwyr dur yn y fantol, ar ôl i Tata gyhoeddi eu bod nhw’n cau’r ddwy ffwrnais chwyth yng ngwaith dur mwyaf y Deyrnas Unedig.
Yn Nhŷ’r Cyffredin, mae Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur yn San Steffan, wedi bod yn holi Fay Jones, Is-Ysgrifennydd Seneddol Cymru, o le y byddai’r dur i greu tyrbinau gwynt yn dod ar ôl cau’r ddwy ffwrnais.
“Bob blwyddyn, mae Port Talbot yn creu digon o ddur i gyrraedd targedau gwynt y Deyrnas Unedig erbyn 2030 ar ben ei hun,” meddai.
“Pan fo ymyrraeth y llywodraeth yn cau’r ffwrneisi chwyth yn gynnar, fedrith hi ddweud wrth y Tŷ o ble ddaw’r dur hwnnw?
“A fydd Gweinidogion yn mewnforio dur o India a chael gwared ar ein gallu i greu swyddi, buddsoddi a lleihau biliau yma ym Mhrydain?”
‘Dim cynllun’
Wrth ymateb, fe wnaeth Fay Jones, Aelod Seneddol Ceidwadol Brycheiniog a Sir Faesyfed, wrthod diystyru dibynnu ar ddur o dramor.
Mae cynlluniau i gau’r ffwrneisi wedi peri pryder y bydd rhaid dibynnu ar wledydd eraill am ddur i wneud ceir, tyrbeini gwynt a llongau’r Llynges Frenhinol.
“Os nad oedd colli 3,000 o swyddi ym Mhort Talbot ddigon drwg, mae Gweinidogion nawr yn peryglu gwerthu’r busnesau arloesol rydyn ni eu hangen i greu swyddi ar gyfer y dyfodol a lleihau biliau ynni,” meddai Jo Stevens, Aelod Seneddol Canol Caerdydd.
“Does gan y Torïaid ddim cynllun ar gyfer busnesau Cymru na’n heconomi.
“Mae Llafur wedi clustnodi gwerth £3bn o fuddsoddiad yn nur y Deyrnas Unedig dros y ddeng mlynedd nesaf er mwyn sicrhau bod y newid at ddur gwyrdd yn creu swyddi yng Nghymru.”