Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud wrth golwg360 nad ydy o wedi’i argyhoeddi bod ffederaliaeth yn opsiwn hyfyw i Gymru.
Daeth ei sylwadau cyn ei araith ar yr adroddiad ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, sy’n nodi annibyniaeth, datganoli pellach a ffederaliaeth fel opsiynau posib i’r dyfodol.
Er hynny, dywed ei fod yn “barod i ystyried unrhyw opsiwn ar gyfer gwella cyflwr ein cenedl”.
“Dw i wastad wedi ystyried bod yna broblem sylfaenol efo ffederaliaeth, oherwydd allai Lloegr fel un o’r unedau, a Chymru a’r Alban a Gogledd Iwerddon yn unedau eraill, ddim gweithio oherwydd maint Lloegr,” meddai wrth golwg360.
“Does yna ddim arfaeth yn cael ei dangos yn Lloegr i’w rhannu’n rhannau ffederal llai chwaith.
“Felly, dydw i ddim yn argyhoeddedig mai dyna yw’r dyfodol, ond wrth gwrs dw i’n eiddgar iawn i wrando ar unrhyw sylwadau ar sut y gallwn ni adeiladu Cymru.”
Ffederaliaeth radical?
Dywed Rhun ap Iorwerth fod ffederaliaeth wrth wraidd addewidion y Blaid Lafur yn y maniffesto Cymreig diwethaf, ond dydy’r term ddim yn cael ei grybwyll bellach.
“Radical federalism ydy’r term maen nhw wedi bod yn ei ddefnyddio ers blynyddoedd, ond wedi’r adroddiad yma dydw i ddim yn clywed radical federalism yn cael ei grybwyll o fewn y Blaid Lafur,” meddai.
“Ystyriwn ni bopeth, dydw i ddim yn meddwl mai dyna yw’r opsiwn.”
Llafur ddim o ddifrif
Dywed Rhun ap Iorwerth y byddai’n rhaid i’r Blaid Lafur brofi eu bod nhw o ddifrif am gyflawni argymhellion yr adroddiad pe baen nhw’n dod i rym yn San Steffan.
“O fewn oriau i gyhoeddi’r adroddiad hwn, fe wnaeth Jo Stevens [llefarydd materion Cymreig Llafur yn San Steffan] ddiystyru’r syniad o ddatganoli plismona,” meddai.
“Dydy hynny ddim yn argoeli’n dda bod Llafur yn gwrando ar bobol Cymru.
“Dyma adroddiad ddeilliodd o ymgysylltu â 15,000 o bobol ledled Cymru.
“Mae gan Lafur gymaint o waith i’w wneud i ddangos eu bod yn cyd-fynd â hyd yn oed ein dyheadau mwyaf sylfaenol ar gyfer rhedeg ein dyfodol ein hunain.”
Er bod angen enbyd am newid y llywodraeth yn San Steffan, meddai, fyddai newid ddim o reidrwydd yn golygu bod problemau Cymru’n cael eu hystyried wedyn.
“Rwy’n meddwl bod y diddordeb mae Keir Starmer wedi’i ddangos yng Nghymru ac yn lles Cymru yn eithaf syfrdanol o ystyried ei fod yn diarddel nifer teilwng o Aelodau Seneddol Llafur i gael eu dychwelyd o Gymru,” meddai.
“Os edrychwn ni ar fater fel ariannu teg i Gymru, mae’n amlwg nad yw Cymru’n cael ei hariannu yn ôl ei hanghenion.
“Edrychwch ar HS2 a’r dros £2.5bn sydd wedi’i golli i Gymru yn anghyfiawn oherwydd penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’w ddynodi’n anghywir fel prosiect Cymru a Lloegr.
“Nid yw Llafur hyd yn oed wedi ymrwymo i unioni’r anghyfiawnder hwnnw, ac mae hynny’n dweud llawer wrthyf am barodrwydd Keir Starmer i ddangos i Gymru ei fod o ddifrif am fynd i’r afael â rhai o’r materion sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd.”
Annibyniaeth yn “nod terfynol realistig a chyraeddadwy”
Yn ei araith yn ddiweddarach, mae disgwyl y bydd Rhun ap Iorwerth yn nodi bod adroddiad y Comisiwn yn torri tir newydd drwy ddangos bod annibyniaeth yn “nod terfynol realistig a chyraeddadwy” i Gymru.
Bydd yn dweud hefyd mai taith yw annibyniaeth, a bod angen i bawb o’r pleidiau a thu hwnt ddod ynghyd.
“Gwyddom ni ym Mhlaid Cymru fod annibyniaeth nid yn unig yn ymarferol, ond yn y pen draw dyma’r opsiwn gorau a mwyaf cynaliadwy ar gyfer dyfodol Cymru,” meddai.
“Mae penllanw’r daith yn un rwyf yn amlwg yn dyheu am ei chyrraedd mor gynnar ag y gallwn, gan fy mod i’n argyhoeddedig mai dyna pryd y gall Cymru ddechrau ffynnu mewn gwirionedd, ond rhaid inni fynd ar y daith honno gyda’n gilydd fel cenedl.
“Rwy’n glir nad yw dyfodol cyfansoddiadol Cymru yn eiddo i unrhyw un blaid, ac mae gwaith y Comisiwn yn dangos gwir werth dod ynghyd – ar draws pleidiau a thu hwnt – wrth i ni ei archwilio.
“Rwy’n gwbl glir bod penderfyniadau am dynged gyfansoddiadol Cymru yn perthyn i Gymru.
“Ni ddylai’r grym i benderfynu a ddylid cynnal refferendwm ar annibyniaeth, a pha bryd, fod yn ddibynnol ar fympwyon San Steffan.”
Bydd yr araith lawn yn cael ei thraddodi yn Eglwys Norwyaidd Caerdydd yn ddiweddarach heddiw (dydd Mercher, Ionawr 31).