Er bod annibyniaeth yn ddichonadwy, fyddai e ddim yn opsiwn dymunol, yn ôl Prif Weinidog Cymru, wrth iddo fe ymateb i Gomisiwn ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Fe wnaeth Mark Drakeford roi datganiad i’r Senedd ynghylch y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Fe wnaeth adroddiad terfynol y Comisiwn, gafodd ei gyhoeddi ar Ionawr 18, ddeg o argymhellion er mwyn cryfhau democratiaeth a gwarchod datganoli.

Wedi’i gadeirio gan yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams, nododd y Comisiwn dri o opsiynau dichonadwy ar gyfer y dyfodol – rhagor o ddatganoli, Deyrnas Unedig ffederal, ac annibyniaeth i Gymru.

“Yn wir, mae’r adroddiad yn dweud bod annibyniaeth yn opsiwn sy’n ddichonadwy, ond mewn rhai ffyrdd nid dyna’r cwestiwn, nage?” meddai Mark Drakeford.

“Nid a yw’n ddichonadwy, ond a yw’n ddymunol.

“A dw i’n glir iawn, y rheswm pam dw i ddim yn credu mewn annibyniaeth yw oherwydd dw i ddim yn credu ei bod yn ddymunol i Gymru.

“Dw i ddim yn credu mewn adeiladu rhwystrau newydd.

“Dw i ddim yn credu mewn creu ffiniau newydd pan nad yw ffiniau’n bodoli.”

Cyfeiriodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, at sylwadau gan Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur, oedd wedi wfftio argymhelliad allweddol ar ddatganoli plismona a chyfiawnder.

“Mae hwn yn ddaliad allweddol yn y darn hwn o waith sydd wedi’i gwblhau gan y Comisiwn ar ran Llywodraeth Cymru wrth edrych ar ragor o bwerau datganoli,” meddai.

‘Anghynaladwy’

Dywed Rhun ap Iorwerth fod yr adroddiad wedi newid y darlun yn nhermau ailddiffinio’r ddadl gyfansoddiadol, gan roi mwy o frys ac ysgogiad iddi.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru wrth Aelodau’r Senedd fod y Comisiwn wedi sefydlu sail newydd ar gyfer tystiolaeth sy’n dangos bod annibyniaeth yn ddichonadwy ac yn gyraeddadwy i Gymru.

Wrth rybuddio bod y drefn bresennol yn anghynaladwy, tynnodd e sylw at y ffaith fod peryglon ynghlwm wrth bob opsiwn gan ddadlau bod aelodaeth o’r Deyrnas Unedig wedi arwain at dlodi sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yng Nghymru.

“Heb fynediad at yr holl lifrau sydd eu hangen arnom er mwyn newid ein ffawd economaidd, mae ein hanes yn debygol o barhau’n un o farweidd-dra a dirywiad wedi’i reoli, ond gallwn ni newid yr hanes gyda’r ystod lawn o bwerau y gall annibyniaeth yn unig eu sicrhau.”

Mae Rhun ap Iorwerth wedi cyhuddo Jeremy Miles a Vaughan Gething, y ddau ymgeisydd i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, o “dawelwch llwyr” o ran casgliadau’r Comisiwn.

‘Perygl’

Mae Alun Davies, sy’n cynrychioli Blaenau Gwent, wedi codi’r angen i ddwyn perswâd ar gydweithwyr Llafur ynghylch byrder y ddadl gyfansoddiadol pe bai’r blaid yn ennill yr etholiad nesaf.

“Mae perygl o hyd… y bydd pobol yn credu, oherwydd bod y Ceidwadwyr wedi cael eu trechu, fod y gwaith cyfansoddiadol rywsut wedi’i wneud,” meddai Mark Drakeford.

Cododd Tom Giffard, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, bryderon fod yr adroddiad wedi costio £1.5m hyd yn hyn – “y casglwr llwch mwyaf drud erioed”.

Fe wnaeth e annog y Prif Weinidog i wfftio’r posibilrwydd o sefydlu Comisiwn Cyfansoddiadol parhaol, fel sydd wedi’i awgrymu gan Rhun ap Iorwerth.

Dywedodd Mark Drakeford ei bod hi’n bwysig fod y sgwrs yn parhau, ond wnaeth e ddim ymrwymo i Gomisiwn parhaus yn ystod ei ddatganiad ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 30).

Arloesi

“Mae Gymru’n wlad comisiynau, fel mae’r Comisiwn yn ei ddweud,” meddai Adam Price, cyn-arweinydd Plaid Cymru, wrth alw am arloesi’n ddemocrataidd.

“Ond mae’n awgrymu’r angen am rywbeth all para’n well, rhywbeth mwy parhaol na chyfres o gomisiynau ar hyd y blynyddoedd os ydyn ni am wella’n hiechyd democrataidd o hyd.”

Cytunodd Mark Drakeford ynghylch yr angen i adfywio democratiaeth, sydd “ond yn llewyrchu os ydych chi’n gofalu am yr ardd lle caiff ei hau”, gan ddweud mai dyna fwriad yr adroddiad.

Cododd Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y Cyfansoddiad, y ffaith fod y Comisiwn wedi canolbwyntio ar berthnasau gwael rhwng llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Fe wnaeth Mark Drakeford gydnabod fod tôn perthnasau rhynglywodraethol wedi gwella ers i Rishi Sunak ddod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

“Mae e’n fwy parod i gydnabod fod y Deyrnas Unedig yn wahanol gydrannau sy’n haeddu parch,” meddai’r Prif Weinidog wrth Aelodau’r Senedd.

“Ond mae’n rhaid ei fod e’n fwy na hynny.”

Dywedodd nad oedd cyngor o weinidogion, oedd wedi cymryd pum mlynedd i gytuno ar ôl cael eu comisiynu gan Theresa May, wedi cyfarfod unwaith yn ystod 2023 er gwaetha’r argyfwng costau byw ac argyfyngau eraill.

Rhun ap Iorwerth yng nghynhadledd Plaid Cymru

Rhun ap Iorwerth: Problemau sylfaenol ffederaliaeth yn golygu nad yw’n opsiwn cryf

Catrin Lewis

Dywed arweinydd Plaid Cymru hefyd fod yn rhaid i Keir Starmer brofi ei fod o ddifrif am fynd i’r afael â rhai o’r materion sy’n wynebu Cymru