Mae Cynghorydd Llafur amlycaf Sir Gaerfyrddin, oedd unwaith yn un o’r ceffylau blaen i fod yn ymgeisydd seneddol, yn dweud ei fod e wedi cael ei ddiarddel gan y blaid.

Dywed y Cynghorydd Rob James, fu’n arwain yr wrthblaid ar Gyngor Sir Caerfyrddin ers bron i chwe blynedd, ei fod e’n edrych ymlaen at y cyfle i glirio’i enw.

Yn ôl pob tebyg, y rhesymau am ei ddiarddel yw neges destun ganddo fe y llynedd lle dywedodd e ar gam fod gan Lee Waters, yr Aelod Llafur o’r Senedd, ddau ail gartref yn Sir Gaerfyrddin nad oedd e’n byw ynddyn nhw, a’r ffaith fod Rob James wedi lawrlwytho data am drigolion Abertawe yn rhinwedd ei swydd gyda Geraint Davies, Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe.

Mae’r Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol wedi cysylltu â Llafur Cymru am sylw, ond doedden nhw ddim wedi ymateb erbyn i’r stori gael ei chyhoeddi.

Fe wnaeth y Cynghorydd Rob James honni mai “tynnu coes” oedd y neges destun gafodd ei hanfon at gynghorydd Plaid Cymru yn ystod dadl y Cyngor y llynedd am ail gartrefi, a bod hynny wedi arwain haf diwethaf at ei dynnu oddi ar restr fer o bedwar o bobol i gael eu dewis i fod yn ymgeisydd Llafur ar gyfer sedd newydd Caerfyrddin yn yr etholiad cyffredinol.

Mae lle i gredu mai’r Cynghorydd Rob James oedd y ffefryn i gael ei enwebu.

Mae’r honiad arall yn llawer mwy diweddar, ac mae lle i gredu ei fod yn ymwneud â’r defnydd o ddata’r gofrestr etholiadol er mwyn ysgrifennu at drigolion Abertawe i’w hysbysu am gyfarfod cyhoeddus gafodd ei drefnu gan yr Aelod Seneddol Geraint Davies, sydd wedi’i ddiarddel gan Lafur, ynghylch llwybr seiclo posib yn y ddinas.

‘Sioc’

Dywedodd y Cynghorydd Rob James ei fod e wedi cael sioc pan gafodd e wybod ddydd Iau diwethaf (Ionawr 25) ei fod e wedi’i ddiarddel yn weinyddol.

Mae lle i gredu bod llythyr wedi dilyn gan y blaid, oedd yn nodi’r rhesymau ac yn gofyn sawl cwestiwn iddo fe.

Tra bydd angen i Lafur ddewis arweinydd Grŵp newydd, dywed y Cynghorydd Rob James y bydd yn parhau’n gynghorydd Llafur yn hytrach na mynd yn annibynnol fel bod modd iddo fe frwydro yn erbyn ei waharddiad.

“Dw i wedi fy niarddel yn weinyddol o’r blaid wrth aros am ymchwiliad,” meddai.

“Bydda i’n parhau i wasanaethu fy nhrigolion fel dw i wedi’i wneud ers 2017 fel cynghorydd Llafur.

“Dw i’n edrych ymlaen at y cyfle i glirio fy enw ar bob cyfri.”

Cafodd y Cynghorydd Rob James ei ethol am y tro cyntaf yn gynghorydd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn 2012, gan ddechrau gweithio’n rhan amser i Geraint Davies.

Ar ôl symud i Lanelli, cafodd ei ethol yn gynghorydd yn Sir Gaerfyrddin, gan gynrychioli ward Lliedi yn Llanelli, yn 2017.

Daeth yn arweinydd y Grŵp Llafur yn 2018, gan arwain yr wrthblaid.

Mae gan Lafur 21 o gynghorwyr yn Sir Gaerfyrddin allan o 74, tra bod gan Blaid Cymru 38.

Mae Lee Waters, yr Aelod o’r Senedd dros Lanelli a Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, wedi egluro eisoes nad yw’n berchen ar dri thŷ, ac na fu’n berchen ar dri erioed, ond ei fod e’n byw mewn dau le yn rhinwedd ei swydd yn cynrychioli Llanelli.

Yn y cyfamser, cafodd Martha O’Neil ei dewis gan Lafur i frwydro sedd Caerfyrddin, gafodd ei chreu ar ôl newid ffiniau, yn yr etholiad cyffredinol nesaf.