Mae cael gwared ar gymhwyster Bagloriaeth Cymru i ddisgyblion rhwng 14 ac 16 oed “yn siomedig”, yn ôl undeb addysg UCAC.

Daw’r newid wrth i gorff Cymwysterau Cymru gyhoeddi cymwysterau newydd ar gyfer pynciau mwy ymarferol.

Y gobaith yw y bydd Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwch (TAAU) yn cael yr un statws â TGAU pan fydd yn cael ei gyflwyno fis Medi 2027.

Yn dilyn y newidiadau, fydd Bagloriaeth Cymru na’r Dystysgrif Her Sgiliau ddim yn cael eu cynnig i ddisgyblion 14 i 16 oed.

Bydd cymhwyster Prosiect Personol yn cael ei gyflwyno, a gall disgyblion ei gwblhau ar bwnc o’u dewis i brofi eu sgiliau creadigol a chynllunio.

Mae’r newidiadau’n cyd-fynd â’r gwaith o ddiwygio’r cymwysterau ar gyfer y cwricwlwm newydd i Gymru.

‘Siomedig’

Ond yn ôl Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC), mae’n destun siom gweld y Fagloriaeth yn diflannu.

“Mae yna gymaint o ewyllys da, egni, ymroddiad wedi cael ei roi, yn enwedig yn yr ysgolion lle mae ein haelodau ni ar eu cryfaf, mae gweld hyn yn digwydd yn siomedig dros ben,” meddai wrth golwg360.

“Mae yna nifer o athrawon wedi’u penodi i addysgu neu gyd-gordio’r BAC yn benodol, a rŵan mae’n diflannu ac maen nhw’n cyflwyno ryw gymhwyster Prosiect Personol.

“Mae hi’n anodd gweld y bydd pobol eisiau ymrwymo gymaint i’r cymhwyster yna, dydy o ddim yn edrych fel bod o’n deilwng o gymhwyster a sicrhau bod pawb yn ymgymryd â fo.

“Mae’n ymddangos mai trio symud pethau ychydig er mwyn cael gwared ar rywbeth oedd yn amhoblogaidd.

“Rydyn ni’n siomedig iawn yn hynny, ac yn pryderu bod gymaint o ymroddiad wedi’i ddangos gan ysgolion a gymaint o fuddsoddiad wedi’i roi yn y BAC a bod Cymwysterau Cymru’n troi eu cefnau ar hynny.”

Pwrpas Bagloriaeth Cymru yw paratoi myfyrwyr ar gyfer y byd gwaith, ar gyfer astudio ymhellach ac ar gyfer bywyd, a chafodd ei gyflwyno yn 2007 yn wreiddiol, cyn i fersiwn ddiwygiedig gael ei chyflwyno yn 2015, pan wnaeth Llywodraeth Cymru ddweud bod rhaid i bob ysgol ei ddarparu.

Bydd y Fagloriaeth yn cael ei chynnig i ddisgyblion Safon Uwch o hyd.

‘Trawsnewid mwyaf mewn cenhedlaeth’

Wrth gyhoeddi’r newidiadau, dywed Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau gyda Cymwysterau Cymru, mai’r “ystod gyffrous o gymwysterau” sydd wedi’u cyflwyno’r wythnos hon “yw’r trawsnewid mwyaf o ran cymwysterau 14-16 mewn cenhedlaeth”.

“Bydd yn golygu y bydd ein holl ddysgwyr, beth bynnag fo’u diddordeb, eu dawn neu eu gallu, yn gallu cael cydnabyddiaeth a gwobr am yr hyn maen nhw’n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud,” meddai.

“Gyda’r cymwysterau newydd hyn, byddan nhw’n gallu symud ymlaen o’r Cwricwlwm i Gymru i’r cam dysgu nesaf a chreu sylfaen ar gyfer eu llwyddiant personol eu hunain.”

 

Croeso i gymwysterau newydd, ond pryder am lwyth gwaith athrawon

Cadi Dafydd

Mae TAAU yn gymhwyster newydd ar gyfer cyrsiau galwedigaethol i ddisgyblion 14 i 16 oed, ac fe fydd yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2027