Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn un o bedwar partner mewn prosiect celfyddydau a thechnoleg ymdrochol newydd.

Bydd y ganolfan gelfyddydol yn rhan o brosiect newydd fydd yn cefnogi dros 200 o artistiaid a sefydliadau i archwilio potensial creadigol technolegau realiti rhithwir, estynedig a chymysg.

Trwy brosiect Celfyddydau Ymdrochol, bydd y ganolfan yn adeiladu ar ei gwaith yn y maes gyda’i lleoliad realiti estynedig pwrpasol Bocs – y cyntaf o’i fath mewn canolfan gelfyddydol yn y DU – a’i phrofiadau realiti rhithwir ei hun.

Y rhaglen

Mae’r term ‘technoleg ymdrochol’ yn cwmpasu sbectrwm eang o offer a thechnolegau, gan gynnwys yr injans gemau a ddefnyddir i greu apiau realiti rhithwir ac estynedig fel Beat Saber neu Pokémon Go, yn ogystal â hud y dechnoleg cipio delweddau symudol, sgriniau LED a sain ofodol yn Abba Voyage.

Bydd y prosiect tair blynedd yn cael ei ariannu drwy grant o £6m gan XRtists, partneriaeth rhwng Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a Chyngor Celfyddydau Lloegr, Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd y rhaglen yn rhoi’r cyfle i artistiaid gael mynediad at hyfforddiant, mentora, cyfleusterau arbenigol ac arian, gyda chyfran o £3.6 miliwn o gyllid grant ar gael i helpu artistiaid o Gymru i roi eu syniadau ar waith.

Bydd y rhaglen yn cael ei harwain gan Brifysgol Gorllewin Lloegr (UWE Bryste), gyda’r prif ganolbwynt yn Pervasive Media Studio ym Mryste, a Watershed fydd y Cynhyrchydd Gweithredol.

Bydd PMStudio yn gweithio gyda phartneriaid cynhyrchu ym mhob un o bedair cenedl y Deyrnas Unedig, gyda Chanolfan Mileniwm Cymru yn ymuno â Watershed yn Lloegr ochr yn ochr â Nerve Centre yng Ngogledd Iwerddon a Cryptic yn yr Alban.

Yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf, mae’r pedwar partner wedi cefnogi dros 5,500 o artistiaid ac wedi rhannu gwaith â chynulleidfa o dros 70.5m o bobol.

‘Partneriaeth unigryw’

Mae’r ganolfan yn edrych ymlaen at ymuno â sefydliadau sy’n rhannu eu “hawydd i gefnogi pobol greadigol”, yn ôl Cyfarwyddwyr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru.

“Rydym yn falch iawn o fod yn bartner ar gyfer cyfle gwych a fydd yn creu gofod ac amser i gwestiynu, ymgysylltu ac ehangu dulliau o adrodd straeon,” meddai Graeme Farrow.

“Mae’r groesffordd rhwng technoleg ymdrochol a gwaith artistig byw yn hynod ddiddorol, a bydd y rhaglen hon yn galluogi artistiaid, pobol ifanc a chymunedau i archwilio’r posibiliadau hyn ac adrodd eu straeon yn y ffyrdd y maent am wneud hynny.

“Mae’n gyffrous ein bod yn ymuno â sefydliadau sy’n rhannu ein hawydd i gefnogi pobol greadigol ddatblygol mewn ffordd gynhwysol a gofalgar.

“Allwn ni ddim aros i ddechrau rhannu’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu â mwy o bobol, a gweithio gyda nhw i adeiladu sylfaen gref ar gyfer ein huchelgeisiau yn y dyfodol yn y maes hwn.”

“Mae hon yn bartneriaeth unigryw gyda chenhedloedd eraill y DU i greu cyfleoedd cynhwysol i archwilio posibiliadau technoleg greadigol i rannu profiadau ac adrodd straeon gydag effaith,” meddai Lisa Matthews-Jones o Gyngor Celfyddydau Cymru.

“Mae Canolfan Mileniwm Cymru mewn sefyllfa berffaith i adeiladu ar eu gwaith eu hunain a chefnogi gwaith eraill yng Nghymru er budd cynulleidfaoedd presennol a rhai’r dyfodol.”

‘Ar flaen y gad’

“Mae’r llywodraeth eisoes wedi buddsoddi £75 miliwn i adeiladu rhwydwaith o labordai Ymchwil a Datblygu ledled y DU a fydd yn ein rhoi ar flaen y gad o ran datblygiadau mewn effeithiau gweledol, technoleg cipio delweddau symudol ac AI ar gyfer y diwydiannau sgrin a llwyfan,” meddai Lucy Frazer, Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Bydd y cyllid newydd hwn yn helpu hyd yn oed mwy o’n hartistiaid a’n pobl greadigol mwyaf disglair i harneisio pŵer y dechnoleg arloesol hon.

“Bydd datblygu’r sgiliau a’r seilwaith sy’n sail i dechnoleg ymdrochol yn gwneud y mwyaf o botensial ein diwydiannau creadigol pwerus ac yn cyflawni ein nod o’u tyfu o £50 biliwn erbyn 2030.”