Mae pryderon am lwyth gwaith athrawon, er bod undebau addysg yn croesawu cymhwyster newydd ar gyfer cyrsiau galwedigaethol.
Mae Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwch (TAAU) yn gymhwyster newydd i ddisgyblion 14 i 16 oed, ac fe fydd yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2027.
Y gobaith yw y bydd TAAU yn cael yr un statws â TGAU.
Daw’r newid fel rhan o ddiwygio cymwysterau ar gyfer y cwricwlwm newydd i Gymru.
Fydd disgyblion ddim bellach yn gwneud cyrsiau fel BTEC ar gyfer pynciau mwy ymarferol, fel arlwyo neu fusnes.
Bydd TAAU yn disodli tua 300 o gymwysterau galwedigaethol sy’n cael eu cynnig gan wahanol gyrff, megis BTEC. Bydd cymwysterau BTEC yn dal i gael eu cynnig i fyfyrwyr ôl-16.
‘Pryder am lwyth gwaith’
Er ei fod yn croesawu’r newid i gymwysterau, dywed Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC), fod pryder am lwyth gwaith athrawon.
“Mae’n grêt sôn am fwy o asesu mewnol, ond pryd mae’r athrawon yn mynd i gael amser i asesu’n fewnol? Mae yna ddigon o lwyth efo asesu fel sydd yna efo TGAU ar hyn o bryd, a Safon Uwch mewn rhai pynciau,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n mawr obeithio bod yna ystyriaethau o ran lleihau llwyth gwaith a rhyddhau oriau i athrawon i gyflawni’r anghenion asesu.
“Mae hynny’n bryder mawr, nid ein bod ni’n gwrthwynebu bod cymwysterau yn newid.
“Â dweud y gwir, efallai bod Cymru angen gweld cymwysterau’n newid yn chwyldroadol, ond rydyn ni’n deall hefyd, er mwyn ateb gofynion pobol ifanc a’r gweithlu yng Nghymru, dydy’r ffyrdd traddodiadol yma o weithio ddim o reidrwydd yn llwyddiannus.
“Rydych chi’n edrych ar systemau addysg gwahanol, ac mae asesu’n bur wahanol i beth rydyn ni’n ei weld yng ngwledydd Prydain.
“Ar y llaw arall, rydyn ni’n deall ein bod ni ddim eisiau newid pethau’n chwyldroadol, mae angen mynd â phethau’n raddol fel bod athrawon yn cael digon o amser i ddygymod â phethau.”
Ychwanega fod amser “yn gyfyng iawn” o ran datblygu’r deunydd sydd eu hangen mewn ysgolion i gyd-fynd â’r newid.
‘Syrthio rhwng dwy stôl’
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i gymwysterau TGAU eisoes, a’r prif reswm dros yr adolygiad ydy sicrhau bod y cymwysterau’n cyd-fynd ag amcanion y Cwricwlwm Newydd i Gymru.
“Os ydyn ni’n newid y cwricwlwm mae angen i ni newid y cymwysterau i gyd-fynd, ond eto mae hwn yn syrthio rhwng dwy stôl, efallai,” meddai Ioan Rhys Jones.
“Os ydych chi’n edrych ar y cwricwlwm a’r cynnig newydd, mae’r cynnig newydd yn amlwg yn ryw hybrid o’r hyn sydd ei angen a’r hen gymwysterau.”
‘O fudd i bobol ifanc’
Dywed Laura Doel, Cyfarwyddwr Cenedlaethol undeb arweinwyr ysgolion NAHT Cymru, eu bod nhw’n croesawu’r newidiadau fydd “o fudd i bobol ifanc sy’n gwneud yn dda mewn pynciau galwedigaethol”.
“Roedd angen adolygu’r cymwysterau galwedigaethol sydd gennym ni a nawr mae gennym ni gyfle i ddatblygu rhywbeth yng Nghymru sydd wir yn cwrdd ag anghenion ein dysgwyr,” meddai.
“Fodd bynnag, mae yna bryderon am y goblygiadau i bwysau gwaith ysgolion, sut fydd y cymwysterau hyn a’r TGAU yn plethu gyda’r Cwricwlwm Newydd i Gymru, a’u haddasrwydd wrth gwrdd ag anghenion disgyblion sy’n symud i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig i astudio neu weithio.
“Mae trafodaethau am y materion hyn yn parhau rhwng undebau, CBAC a Cymwysterau Cymru i sicrhad nad ydy dysgwyr na staff dan anfantais.”
Yn rhan o’r datblygiadau, mae newidiadau eraill yn cynnwys cyflwyno ystod o gymwysterau sylfaen ar gyfer myfyrwyr nad ydyn nhw’n barod i sefyll TGAU, cyflwyno unedau byr ar gyfer addysgu mewn meysydd fel llythrennedd ariannol, garddio, ymgeisio am swyddi, a gwasanaeth cwsmeriaid.
Bydd cymwyster Prosiect Personol yn cael ei gyflwyno hefyd, a gall disgyblion ei gwblhau ar bwnc o’u dewis i brofi eu sgiliau cynllunio a chreadigol.
Yn dilyn y newidiadau, fydd Bagloriaeth Cymru na’r Dystysgrif Her Sgiliau ddim yn cael eu cynnig i ddisgyblion 14 i 16 oed.