Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, wedi cael cynnig cyfarfod ag Is-Ysgrifennydd Gwladol Busnes a Masnach San Steffan, i drafod effaith sgandal Swyddfa’r Post ar gymunedau yn ei hetholaeth.

Fe fu Swyddfa’r Post Nefyn ynghau ers mis Medi, ac er y bu datganiadau cychwynnol o ddiddordeb mewn cymryd y gwasanaeth drosodd, maen nhw wedi’u tynnu’n ôl bellach, ac mae Swyddfa’r Post wedi gwrthod rhoi gwasanaeth allgymorth i Nefyn.

Mae Liz Saville Roberts yn dweud ei bod hi wedi cael ar ddeall fod y penderfyniad i dynnu’n ôl yn ymwneud yn uniongyrchol â sgandal Horizon, pan gafodd cannoedd o is-bostfeistri eu cyhuddo ar gam o dwyll a’u carcharu yn sgil nam ar system gyfrifiadurol Fujitsu.

‘Dal i niweidio ein cymunedau’

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae effeithiau sgandal Horizon ac arferion busnes Swyddfa’r Post “yn dal i niweidio ein cymunedau”.

“Caeodd y swyddfa bost yn Nefyn yn rhannol oherwydd nad yw staff bellach yn ymddiried yn y systemau cyfrifiadurol, ac rwy’n sicr bod hyn yn wir am gymunedau eraill,” meddai, wrth siarad yn San Steffan.

“Rwy’ wedi gofyn i Swyddfa’r Post ddarparu fan allgymorth yn Nefyn os nad oes unrhyw fusnes o gwbl yn fodlon darparu’r gwasanaeth hwnnw – fel sy’n ymddangos yn debygol iawn, oherwydd rwy’ wedi gofyn i fusnesau.

“Yr wythnos diwethaf, gwrthododd y Swyddfa Bost fy nghais.

“A wnaiff y Gweinidog warantu i bobl leol y bydd Nefyn, y dref hynaf a’r ail fwyaf yn Llŷn, yn cael gwasanaethau post unwaith eto?’

‘Hyder’

Wrth ymateb, dywedodd Kevin Hollinrake, Is-Ysgrifennydd Gwladol Busnes a Masnach San Steffan, y byddai’n hapus i gyfarfod â Liz Saville Roberts i drafod y mater.

“Mae’n bwysig iawn bod gan ein dinasyddion – ein defnyddwyr – hyder yn Swyddfa’r Post,” meddai.

“Yn sicr, dyna fu’r profiad yn fy ardal i: mae pobol yn gwylltio pan fydd swyddfeydd post yn cau, felly mae gan y cyhoedd rywfaint o hyder yn y gwasanaeth.

“Mae system Horizon yn cael ei newid.

“Hyd y gwn i, ni fu erioed achos o gwsmer ar ei golled oherwydd system Horizon, ond rwy’n hapus iawn i gwrdd â’r Aelod i drafod ei hachos yn Nefyn.”