Mae diffoddwyr tân wedi cwblhau antur i’r Antarctig, sy’n golygu mai nhw yw’r bobol gyntaf erioed i deithio’r llwybr penodol hwnnw o arfordir Antarctica i Begwn y De.
Rhwng mis Tachwedd y llynedd ac Ionawr 12 eleni, bu’r cyn-chwaraewr rygbi Rebecca Openshaw-Rowe a’r athletwraig triathlon Georgina Gilbert yn cerdded a sgïo tua 745 milltir mewn 52 diwrnod.
Angylion Tân yr Antarctig yw’r bobol gyntaf i gwblhau’r llwybr roedden nhw wedi’i ddewis, ac fe wnaethon nhw’r daith heb dywysydd, gan dynnu eu cyflenwadau ar slediau oedd yn pwyso 100kg yr un.
Bu’r ddwy yn cadw cofnod o’u cylch misol drwy gydol y daith, a bydd ymchwilwyr o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd yn edrych ar eu patrymau misol gan weld sut effaith mae tywydd oer yn ei gael ar y mislif.
Yn ystod y daith, roedd y tymheredd mor isel â -30 gradd selsiws, a’r gwyntoedd mor gryf â 60m.y.a.
Cymerodd eu hantur dros bedair blynedd o gynllunio a hyfforddi gofalus, ac ymhlith eu prif nodau roedd herio ystrydebau rhywedd ac ysbrydoli cenedlaethau o fenywod yn y dyfodol.
‘Ysbrydoli menywod’
Mae Georgina Gilbert, sy’n 49 oed ac yn gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub y De, yn mynd drwy’r perimenopos ar hyn o bryd, a buon nhw’n cofnodi’r effaith ar ei symptomau hi yn ystod y daith.
“Daeth y syniad gan grŵp o fenywod eraill oedd wedi bod yn yr Antarctig yn 2014, tîm o’r fyddin,” meddai Rebecca Openshaw-Rowe, sy’n gweithio â Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, wrth siarad â golwg360 cyn mynd.
“Roedd un ohonyn nhw’n siarad mewn digwyddiad oedden ni ynddo am fenywod yn y gwasanaeth tân, a chafodd Georgina ei hysbrydoli gan hyn.
“Rydyn ni’n gwneud e i drio sicrhau bod menywod sy’n ddiffoddwyr tân yn fwy gweladwy ymysg y cyhoedd, achos does yna ddim lot o fenywod yn ddiffoddwyr tân dros y wlad.
“Hefyd rydyn ni eisiau ysbrydoli menywod a’u hannog nhw i fod ddigon dewr i ddilyn eu breuddwydion eu hunain a gwthio ffiniau, a phrofi na ddylai rhywedd fod yn rhywbeth sy’n eich dal chi’n ôl.
“Does yna ddim llawer o ymchwil wedi cael ei wneud ar fenywod mewn amgylchiadau eithafol, yn enwedig yr Antarctica. Mae’r rhan fwyaf o’r ymchwil yn edrych ar ddynion.”
Mae Angylion Tân yr Antarctig hefyd wedi bod yn codi arian i Elusen y Diffoddwyr Tân, sy’n rhoi cymorth gydol oes i aelodau gwasanaethau tân ac achub ledled Prydain, ac mae’r dudalen JustGiving dal ar agor.