Bydd arweinydd Catalwnia yn amddiffyn y Bil Amnest a statws swyddogol yr iaith Gatalaneg gerbron yr Undeb Ewropeaidd yn ystod ymweliad swyddogol â Brwsel.
Wrth annerch Pwyllgor Rhanbarthau Ewrop, bydd Pere Aragonès yn cefnogi’r bil sy’n rhoi pardwn i arweinwyr refferendwm annibyniaeth 2017 yng Nghatalwnia, wrth i’r mater fod yn destun dadl a phleidlais yng Nghyngres Sbaen heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 30).
Bydd e a Meritxell Serret, y Gweinidog Tramor, yn cyfarfod â phedwar comisiynydd yn ystod eu hymweliad.
Statws i’r iaith
Y llynedd, ceisiodd Pedro Sánchez, Prif Weinidog Sbaen a Llywydd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, gydnabyddiaeth i’r iaith Gatalaneg yn Ewrop.
Ond daeth gwrthwynebiad gan nifer o wledydd, ac fe gafodd ei wrthod.
Ond yn ôl Gwlad Belg, y wlad sy’n cael ei chynrychioli gan y Llywydd presennol, maen nhw eisiau “symud y mater yn ei flaen”.
Ond maen nhw’n aros i Sbaen a Chomisiwn Ewrop gynnig eglurhad ynghylch “goblygiadau ariannol a chyfreithiol” rhoi statws swyddogol i’r iaith.