Mae Dyfed Edwards wedi’i benodi’n gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Cafodd ei benodi dros dro fis Chwefror y llynedd, ond mae bellach wedi’i gadarnhau yn y rôl yn barhaol.

Mae ganddo fe gryn brofiad o arwain yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Bydd e yn y rôl am gyfnod o bedair blynedd.

‘Breintiedig’

“Mae iechyd, a’r system iechyd a gofal yn cyffwrdd â phob un o’n bywydau ar adegau gwahanol, ac mae’n rhan allweddol o’r ffabrig cymdeithasol sy’n cynnal ein cymunedau yng ngogledd Cymru,” meddai Dyfed Edwards.

“Rydym yn gwybod bod y Bwrdd Iechyd wedi bod yn tanberfformio ac yn methu o ran cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf i’n cymunedau ond dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi cyfarfod â llawer o staff anhygoel ac wedi gweld rhai gwasanaethau gwych.

“Rydw i’n teimlo’n freintiedig o gael ymuno â’r tîm cryf o 19,000 o staff yn Betsi ac rydw i’n gwybod eu bod yn rhannu fy uchelgais i ac uchelgais y Bwrdd i wneud gwelliannau parhaus i iechyd a lles poblogaeth gogledd Cymru ac o ran darparu eu gwasanaethau gofal iechyd.

“Rydym yn dechrau gweld cynnydd da ac rydw i’n edrych ymlaen at barhau â’r daith i greu sefydliad mwy effeithiol.”