Mae Plaid Cymru’n annog llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i drin plant o Gaza sydd wedi’u hanafu’n wael.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth San Steffan roi’r gorau i ariannu asiantaeth ffoaduriaid Palesteina (UNRWA), yn dilyn honiadau bod oddeutu deuddeg o weithwyr allan o 30,000 wedi’u hamau o fod â rhan yn yr ymosodiadau gan Hamas ar Israel ar Hydref 7.

Mae UNRWA yn diwallu anghenion sifil a dyngarol 5.9m o bobol ar Lain Gaza, ar y Lan Orllewinol ac mewn gwersylloedd mewn gwledydd cyfagos.

Gyda 13,000 o weithwyr yn Gaza, mae UNRWA yn rhedeg clinigau gofal iechyd, yn rhoi cymorth dyngarol, ac yn darparu gwasanaethau amrywiol eraill.

Bu bron i system gofal iechyd Gaza chwalu’n llwyr ar ôl bron i dri mis o ymosodiadau gan Israel a brwydro.

Ar Ionawr 25, aeth saith o bobol o Balesteina i Ffrainc am driniaeth feddygol – yr ail waith i drigolion y wlad fynd i’r wlad, ar ôl i ddau o blant fynd yno ar Ragfyr 28.

Cyhoeddodd yr Eidal ar Ionawr 24 eu bod nhw am gynnig triniaeth i gant o blant Palesteinaidd o Gaza.

‘Ailystyried?’

“Ddeufis yn ôl, gofynnais i’r llywodraeth a fydden nhw’n ystyried darparu triniaeth arbenigol i blant clwyfedig Gaza yn ysbytai’r Deyrnas Unedig, fel sy’n aml yn digwydd pan fo trychineb naturiol neu ryfel creulon dramor,” meddai Hywel Williams, llefarydd materion rhyngwladol Plaid Cymru.

“Atebodd y gweinidog ar y pryd, gan ddweud mai’r dewis oedd cynyddu’r cymorth o fewn y wlad, mewn gwirionedd, ac mi wnaeth o ei hun gyfeirio at y cynnydd o £60m yn ei ddatganiad.

“Ond o gofio dinistr ysbytai yn Gaza a chyflwr truenus cyfleusterau meddygol, a fydd o bellach yn ailystyried y safiad hwnnw?”

Atebodd Andrew Mitchell, sy’n weinidog yn y Swyddfa Dramor, fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig “yn edrych ar bob agwedd ar hynny”.