Dylai gwleidyddion yng Nghaerdydd fod yn gyfrifol am y gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid, yn ôl pum undeb sy’n cynrychioli staff yn y meysydd.

Mae GMB, Napo, PCS, Unsain ac UCU yn annog Jeremy Miles a Vaughan Gething, y ddau ymgeisydd yn y ras i ddod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, i wthio dros ddatganoli’r ddau wasanaeth.

Yn 2022, fe wnaeth adroddiad gan Gordon Brown, cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, argymell y dylai Llywodraeth Lafur nesaf y Deyrnas Unedig “ddechrau ar ddatganoli’r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid”.

Yn ôl y pum undeb, does dim synnwyr mewn rhedeg y gwasanaethau hyn 150 milltir i ffwrdd yn Llundain.

“Mae gwleidyddion yng Nghaerdydd yn deall y materion sy’n effeithio ar wasanaethau hanfodol yng Nghymru lawer gwell na’u cyfoedion yn San Steffan,” meddai Simon Dunn, pennaeth yr heddlu a chyfiawnder gydag undeb Unsain.

“Rhaid i bwy bynnag sy’n olynu Mark Drakeford chwifio’r faner dros ddatganoli’r ddau wasanaeth hanfodol.

“Bydd y cyhoedd eisiau gwybod beth yw barn yr ymgeiswyr ar y pwnc.”

‘Argyfwng’

Ychwanega Ian Lawrence, ysgrifennydd cyffredinol Napo, sy’n cynrychioli staff yn y gwasanaeth prawf, eu bod nhw’n disgwyl i ymgeiswyr ar gyfer yr arweinyddiaeth ymrwymo i weithio tuag at ddatganoli’r ddau wasanaeth.

“Mae aelodau Napo wedi dweud yn glir, mae argyfwng yn y gwasanaeth prawf yng Nghymru a Lloegr,” meddai.

“Rhaid iddo gael ei ddatod rhag gwasanaeth sifil San Steffan, a’i wahanu oddi wrth y gwasanaeth carchardai, neu ni fydd hi’n bosib dadwneud y difrod.”