Mae gêm gardiau newydd am chwedlau Cymru bellach ar gael mewn deuddeg gwlad a phymtheg o daleithiau America.
Aeth un o raddedigion Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ati i greu’r gêm, yn y gobaith o annog mwy o bobol i ymddiddori yn hanes a chwedloniaeth Cymru.
Yn dilyn gyrfa amrywiol yn hyfforddi timau pêl-droed a chyhoeddi llyfr am hanes pêl-droed ym Mrynaman, mae Eifion Rogers bellach yn dilyn ei gariad at hanes a chwedloniaeth.
Gyda’i deulu yn hanu o bentref Myddfai yn Sir Gaerfyrddin, sy’n adnabyddus am straeon llên gwerin am Feddygon Myddfai ac Arglwyddes y Llyn, bu’n ymddiddori erioed yn chwedlau Cymru.
Tro newydd ar gardiau Top Trumps
Taith i Iwerddon yn 2018 sbardunodd y syniad am y gêm, ac fe ddysgodd e yno am fytholeg Iwerddon a llyfr yn cynnwys hen straeon llên gwerin gafodd ei greu gan blant ysgol ar sail gwybodaeth roedden nhw wedi’i chasglu gan eu perthnasau byw hynaf.
Yn ei ddychymyg, roedd Eifion Rogers yn gweld ei hun yn creu llyfr oedd yn rhannu chwedlau a threftadaeth ei wlad ei hun, ond ar ôl cyfarfod â phartner busnes, David Daniel, penderfynon nhw fynd am gêm gardiau hwyliog ac addysgol.
Mae’r gêm Chwedlau Cymru, sydd wedi’i chreu yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn dro newydd ar y gêm gardiau ‘Top Trumps’, ac yn cynnwys 32 o gymeriadau o chwedlau Cymru, gan gynnwys Myrddin y Dewin, Mari Lwyd a Rhiannon.
Mae Eifion Rogers yn gobeithio y bydd yn cael ei defnyddio mewn ysgolion, ac y bydd yn ysbrydoli pobol ledled y byd i ymddiddori yn y cymeriadau hyn sydd wedi siapio diwylliant Cymru.
Mae’r gêm eisoes wedi’i chludo i ddeuddeg o wledydd a phymtheg talaith America, ac mae hi wedi ymddangos mewn papurau newydd ac ar orsafoedd radio rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys S4C.
Y brifysgol wedi cael “effaith enfawr”
Fel un o raddedigion Y Drindod Dewi Sant, mae Eifion Rogers wedi gallu derbyn cyngor gan dîm Menter y Brifysgol i ddechrau ei fusnes.
“Mae’n wych gweld, ar ôl iddo fynychu ein Cwrs Dechrau Busnes, derbyn cefnogaeth un-i-un a chael mynediad i’n Grant Entrepreneuriaeth i Fusnesau Newydd, fod Eifion wedi mynd yn ei flaen ac wedi defnyddio popeth y mae wedi’i ddysgu i ddechrau ei fusnes yn llwyddiannus mewn maes y mae’n angerddol iawn amdano a lle mae wedi gweld bwlch yn y farchnad,” meddai Dylan Williams-Evans, Swyddog Gweithredol Menter a Chronfeydd y Dyfodol y Drindod Dewi Sant.
“Cafodd y Brifysgol effaith enfawr ar fy natblygiad a phopeth rydw i wedi’i gyflawni mewn bywyd hyd yn hyn,” meddai Eifion.
“Fe wnes i feithrin perthnasoedd â staff y byddaf yn eu trysori am oes.
“Anghofiaf i byth am y ffordd y gwnaeth y brifysgol siapio fy mywyd.””