Gallai pont droed bren Aberaeron dros afon Aeron fod ynghau am hyd at flwyddyn, wrth i’r gwaith gwerth bron i £32m ar gynllun amddiffynfeydd rhag llifogydd fynd rhagddo.
Fis Awst y llynedd, daeth cyhoeddiad fod y gwaith ar amddiffynfeydd i warchod Aberaeron rhag llifogydd wedi cael cyllid gwerth bron i £27m gan Lywodraeth Cymru.
Caiff Cynllun Amddiffynfeydd Arfordirol Aberaeron gwerth £31.59m ei ariannu drwy gyfraniad o £26.85m gan Raglen Rheoli Perygl Llifogydd Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyfraniad gwerth £4.74m gan Gyngor Sir Ceredigion.
Mae’r cynllun yn cynnwys adeiladu morglawdd o garreg sy’n ymestyn allan o Bier y Gogledd, atgyweirio ac ailadeiladu pen Pier y De, adeiladu waliau llifogydd, adeiladu gât llifogydd yn harbwr mewnol Pwll Cam, a gwelliannau i amddiffynfeydd presennol Traeth y De.
Datganiad gan y contractwyr
Cafodd y cynllun ei gymeradwyo yn ystod cyfarfod Pwyllgor Rheoli Datblygu Cyngor Sir Ceredigion fis Chwefror y llynedd, gyda’r contractwyr adeiladu BAM Nuttall.
“Rydyn ni eisiau lleihau’r anghyfleustra a chadw Aberaeron i symud,” meddai BAM Nuttall mewn datganiad cyn dechrau’r gwaith yn ddiweddar.
“Fel sy’n wir am unrhyw brosiect isadeiledd mawr, bydd llawer o weithgarwch adeiladu’n digwydd o amgylch y dref yn ystod y prosiect.
“Rydyn ni wedi meddwl dipyn am sut i leihau’r anghyfleustra, ond mae’n anochel y byddwn ni’n cael rhywfaint o effaith ar deithio yn y dref.”
Pryderon
Ers hynny, mae pryderon wedi’u codi ynghylch pa mor hir fydd y bont droed bren yn harbwr Pwll Cam ynghau wrth i’r gwaith ar yr amddiffynfeydd gael ei gwblhau.
Dywed Elizabeth Evans, Cynghorydd Sir yn Aberaeron ac Aberarth, ei bod hi wedi derbyn nifer o gwestiynau’n ddiweddar gan y cyhoedd ynghylch hyd y cau, gan gysylltu â BAM Nuttall am ymateb.
“Fel rhan o’n gwaith amddiffyn rhag llifogydd, byddwn ni’n cau’r bont droed i gerddwyr dros afon Aeron dros dro am waith hanfodol yn yr harbwr,” meddai datganiad gan BAM sydd wedi’i rannu gan Elizabeth Evans.
“Bydd gwyriad ar gael ar hyd Stryd y Bont ar ffordd A487 o ddydd Llun (Ionawr 29).
“Bydd dosbarthu creigiau o chwareli lleol yn dechrau o Ionawr 29.
“Bydd y bont ynghau am hyd at flwyddyn.
“Mae hyn er mwyn diogelwch y cyhoedd, ac i atal mynediad heb awdurdod at safle’r gwaith.
“Dw i’n deall fod hyn yn rhwystredig, ond mae’n angenrheidiol.
“Mae’r ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd wedi cael gwybod.
“Dw i’n deall ei fod yn ddadleuool, ond mae’n angenrheidiol.”
Ymateb BAM Nuttall
Mae BAM Nuttall wedi derbyn cais am ymateb.
Mae’r gwaith o warchod Aberaeron rhag llifogydd arfordirol yn y gorffennol yn cynnwys gwaith yn 2009 ar Draeth y Gogledd, welodd fanteision enfawr wrth warchod rhan ogledd-orllewin y dref rhag perygl gorlifo o’r môr, ond aeth hynny i’r afael â rhan o berygl llifogydd yn unig.
Arweiniodd llifogydd fis Rhagfyr 2013, Ionawr 2014 a Hydref 2017 at gau Rhodfa’r Cei a gwella’r amddiffynfeydd presennol o fewn yr harbwr a thraeth y de.