Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddefnyddio fferm ym Mhowys i helpu Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi cael eu difetha ar ôl i ddau walch y pysgod gael eu canfod yno.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru brynu Fferm Gilestone ger Tal-y-bont ar Wysg am £4.25m.
Yn ôl arbenigwyr, dydy tua 750 metr o’r safle ddim yn addas i’w ddefnyddio yn sgil y darganfyddiad, ac yn sgil hynny fydd cynlluniau i ganiatáu i Ŵyl y Dyn Gwyrdd ddefnyddio’r safle ddim yn mynd yn eu blaenau.
Dyma’r tro cyntaf i weilch y pysgod gael eu gweld mor bell i’r de yn y wlad ers 200 o flynyddoedd.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru brynu’r fferm yn 2022 gyda’r bwriad o helpu’r cwmni, ac ers hynny mae Gŵyl Dyn Gwyrdd wedi bod mewn trafodaethau ynglŷn â llogi’r safle.
Roedd y trefnwyr yn bwriadu parhau i ffermio yn Gilestone, a defnyddio’r safle i gynnal digwyddiadau.
‘Amhosib gwireddu’ y cynllun
Mewn datganiad, dywed Vaughan Gething, Gweinidog Economi Cymru, fod y darganfyddiad yn “destun syndod a llawenydd”.
“O ystyried pwysigrwydd hanesyddol y datblygiad hwn, mae lles yr adar a’u nyth, wrth gwrs, yn flaenoriaeth bennaf,” meddai.
“Derbyniais adroddiad yr arbenigwr ym mis Rhagfyr ac ar ôl ystyried ei argymhellion, a thrafod rhain gydag Arweinydd Powys a’r Dyn Gwyrdd, mae’n amlwg ei bod yn amhosibl mwyach wireddu amcanion masnachol ac elusennol llawn Grŵp y Dyn Gwyrdd, fel y’u nodir yn ei gynllun busnes.
“Y rheswm am hynny yw am fod yr adroddiad yn gofyn am greu parth gwarchod o 750m o gwmpas y nyth ar y fferm lle bydd cyfyngiadau trwm ar unrhyw weithgarwch gan bobol. Diogelu’r adar yw ac y bydd y flaenoriaeth fwyaf.”
Dywed ymhellach fod Llywodraeth Cymru’n yn helpu’r Dyn Gwyrdd i “sicrhau lleoliad hirdymor addas yng Nghymru”, a bod “cyfleoedd ar gyfer ffermio cynaliadwy a datblygiad economaidd” ar y safle.
Roedd y pryniant gan Lywodraeth Cymru yn un dadleuol ers y dechrau, a chafodd cwestiynau eu codi gan y gwrthbleidiau ynglŷn â pham gafodd y fferm ei phrynu cyn i’r Dyn Gwyrdd greu cynllun busnes.
Daeth i’r amlwg wedyn fod y Dyn Gwyrdd yn gorfod dibynnu ar weinidogion Llywodraeth Cymru i brynu’r fferm, gan nad oedden nhw’n gallu ariannu’r pryniant eu hunain.
‘Gwrando ar bryderon’
Wrth ymateb, dywed y Ceidwadwyr Cymreig na ddylai’r Llywodraeth fyth fod wedi prynu’r fferm.
“Cafodd pryderon cadwraeth eu codi yn gynnar yn y broses, ynghyd â’r pryderon am bryniant y fferm ei hun, a nawr mae’r Llywodraeth Lafur wedi ffeindio eu hunain yng ngofal yr ased drud hwn gyda phwrpas hollol wahanol i’w cynllun gwreiddiol,” meddai James Evans, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros ganolbarth Cymru.
“Y tro nesaf mae’r Llywodraeth Lafur yn bwriadu estyn am eu llyfr siec, dylen nhw wrando ar bryderon lleol a bod yn llawer mwy tryloyw.”
‘Sicrhau swyddi’
Yn y cyfamser, mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n dweud bod clywed am y gweilch yn “rhoi hwb” iddyn nhw.
“Byddai’r cynlluniau arfaethedig gan y Dyn Gwyrdd wedi dod â buddion economaidd mawr eu hangen i Bowys,” meddai Jane Dodds.
“Gobeithio y bydd yna drafodaethau pellach am sut i ddatblygu cyfleoedd yn y ffordd orau i bawb, yn enwedig ein pobol ifanc ym Mhowys, gan sicrhau eu bod nhw’n gallu cael swyddi yn eu cymuned leol.”