Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw’n bwrw ymlaen â chynlluniau i wahardd fêpiau tafladwy, yn cefnogi deddfwriaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i godi’r oedran ysmygu a chyfyngu ar werthu fêpiau.

Yn ôl ystadegau diweddara’r elusen ASH Cymru, mae 20% o bobol ifanc Cymru yn dweud eu bod nhw wedi defnyddio e-sigaret, gyda 13% yn dweud eu bod nhw wedi rhoi cynnig arnyn nhw fwy nag unwaith.

Yn 2021/22, dywedodd 5% o bobol ifanc eu bod nhw’n defnyddio e-sigaret yn rheolaidd.

Mae data gan yr elusen, sydd heb ei gyhoeddi eto, yn awgrymu bod y ganran hon wedi cynyddu eto dros y blynyddoedd diwethaf.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn rhannu canlyniad yr ymgynghoriad rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig heddiw (dydd Llun, Ionawr 29).

Beth yw’r cam nesaf?

Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig bellach yn cyflwyno Bil Tybaco a Fêpiau cyn gynted â phosibl, fydd yn cymryd camau i:

  • newid yr oedran gwerthu ar gyfer pob cynnyrch tybaco, papurau sigaréts a chynhyrchion smygu llysieuol fel na fydd modd gwerthu cynnyrch tybaco yn gyfreithlon i unrhyw un sydd wedi’i eni o Ionawr 1, 2009 (a’u gwahardd nhw rhag prynu cynnyrch tybaco yn gyfreithlon yn yr Alban yn ogystal), ochr yn ochr â gwahardd gwerthiant procsi, a newid hysbysiadau rhybuddio
  • cyflwyno pwerau rheoleiddio i gyfyngu ar flasau, mannau gwerthu a phecynnu ar gyfer cynhyrchion fepio (nicotin a heb nicotin), yn ogystal â chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr
  • cyflwyno pwerau gorfodi newydd ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer achosion o dorri deddfwriaeth oedran gwerthu ar gyfer tybaco a fêpiau (nicotin a heb nicotin) a chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr.

Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth yr Alban, yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i weithredu gwaharddiad ar fêpiau tafladwy, gan gynnwys cynhyrchion nicotin a chynhyrchion heb nicotin, o ganlyniad i’r effaith sylweddol maen nhw’n ei chael ar yr amgylchedd.

Cam ‘canologol’

Yn ôl Louise Elliott, Pennaeth Polisi ASH Cymru, mae’r cyhoeddiad yn “gam hollbwysig i sicrhau bod ysmygu yng Nghymru yn cael sylw ac yn dod i ben unwaith ac am byth”.

“Mae’n galonogol fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi strategaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig,. oherwydd rydyn ni’n meddwl mai dyma’r strategaeth gywir,” meddai wrth golwg360.

“Yn ei gyfanrwydd, mae’r holl bil yn stopio pobol rhag dechrau ysmygu, yn cefnogi ysmygwyr i roi’r gorau iddi, ond hefyd mae e wir yn edrych ar warchod plant gan daclo ysmygu ymysg yr ieuenctid.

“Y broblem i blant gyda fêpio ydy ei fod o’n gaethiwed i nicotin, a dydyn ni ddim eisiau i’n plant ni ddod yn gaeth i rywbeth fel nicotin.”

Angen canfod cydbwysedd

Yn ôl Louise Elliott, un peth sy’n gwneud fêpio yn fater anodd yw fod angen canfod y cydbwysedd rhwng diogelu plant a phobol ifanc ar y naill law, a helpu oedolion i roi’r gorau i ysmygu ar y llaw arall.

“Mae’n rhaid i ni ganfod cydbwysedd rhwng y niwed o fêpio i bobol ifanc a dod yn gaeth i nicotin gyda’r buddion i oedolion sy’n ysmygu gan ddefnyddio fêps yn hytrach,” meddai.

“Mae yna ganfyddiad pryderus ymhlith oedolion sy’n ysmygu yng Nghymru bod fêpio’n fwy niweidiol, neu’r un mor niweidiol ag ysmygu.

“Dydy hynny ddim yn wir.

“Mae’r holl dystiolaeth sydd gennym yn dweud wrthym, os ydych chi’n ysmygu, mae newid i fêpio yn llawer, llawer llai niweidiol.

“Felly beth dydyn ni ddim eisiau fel canlyniad anfwriadol i wahardd fêps tafladwy yw bod oedolion sy’n ystyried gwneud y newid o ysmygu i fêpio yn cael eu troi i ffwrdd o’r newid yna.

“Rydyn ni’n bendant dal yn gefnogol o e-sigarets a fêpiau fel offeryn i roi’r gorau i ysmygu.”

A fydd gwaharddiad yn gweithio?

Mae angen i wneuthurwyr polisi’r Llywodraeth feddwl yn galed am sut i weithredu’r gwaharddiad a sicrhau ei fod yn gweithio fel y dylai, yn ôl Louise Elliott.

“Rydyn ni’n teimlo bod angen gweithredu caled ond mae angen i ni sicrhau bod gwaharddiad yn gweithio,” meddai.

“Mae’n mynd i fod yn her, felly mae angen i ni weld timau safonau masnach wedi’u hariannu’n briodol ledled Cymru sydd â’r gallu i orfodi’r gwaharddiad.

“Mae angen i ni hefyd feddwl yn ofalus am sut rydyn ni’n atal mewnforio fêpiau anghyfreithlon yn ein porthladdoedd a’n ffiniau.

“Jest achos eich bod chi’n gwahardd cynnyrch, dydy o ddim yn golygu ei fod yn mynd i ddiflannu’n syth o’r farchnad.”