Bu gostyngiad blynyddol mwy ym mhrisiau tai yng Nghymru yn 2023 nag yn ystod unrhyw flwyddyn arall ers argyfwng ariannol 2009.
Gostyngodd prisiau yng Nghymru gan 6% – neu £15,000 – rhwng diwedd 2022 a diwedd 2023.
Pris cyfartalog tŷ ar ddiwedd 2023 oedd £234,086 ac, yn ôl cymdeithasau adeiladu, pwysau economaidd parhaus sy’n gyfrifol am y gostyngiad.
Er bod y gostyngiad blynyddol yn fwy sylweddol nag unrhyw ostyngiad arall ers 2009, mae prisiau tai dal i fod 25% yn uwch na phum mlynedd yn ôl.
Ym mhob un o awdurdodau lleol Cymru, oni bai am bedwar, fe wnaeth prisiau tai ostwng drwy gydol y flwyddyn.
Fodd bynnag, bu cynnydd blynyddol o 0.6% yng Nghaerffili, 1.7% yng Nghaerdydd, 3.5% yng Ngwynedd, ac 8.4% ar Ynys Môn.
‘Cyfnod anodd’
Roedd y gostyngiad mwyaf i’w weld ym Merthyr Tudful (21.2%), ac roedd gostyngiadau sylweddol yn Sir Ddinbych (14.4%), Torfaen (13.2%), Blaenau Gwent (12.5%), Sir Gaerfyrddin (10.7%) a Sir Fynwy (10.2%) hefyd.
Mae tai ar eu drytaf yn Sir Fynwy, Bro Morgannwg a Chaerdydd, gyda’r pris cyfartalog dros £300,000 yn y tair sir, ac ar eu rhataf ym Mlaenau Gwent, lle mae’r prif cyfartalog tua £136,000.
“Mae’r farchnad dai yng Nghymru wedi bod drwy gyfnod anodd, ac o ystyried y pwysau parhaus ar gostau byw ochr yn ochr â chost uwch morgeisi – wrth i aelwydydd ddod oddi ar gyfraddau sefydlog llawer is – nid yw’n syndod bod rhai wedi rhagweld gostyngiadau parhaus mewn prisiau yn 2024, ac wedyn adferiad yn 2025,” meddai Shaun Middleton, Pennaeth Dosbarthu Cymdeithas Adeiladu Principality.
“Fodd bynnag, mae rhai arwyddion cadarnhaol, gan gynnwys chwyddiant is a disgwyliad bod cyfradd Banc Lloegr bellach wedi cyrraedd uchafbwynt o 5.25% ac y bydd yn gostwng yn ystod 2024.
“Yn wir, mae marchnadoedd ariannol yn cynnwys nifer o doriad cyfraddau yn eu prisiadau, gan ostwng cyfradd Banc Lloegr i 4% yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
“Mae marchnadoedd morgeisi eisoes wedi symud, a benthycwyr yn torri cyfraddau yn eithaf sylweddol wrth i gystadleuaeth ddwysau, a gallem ddisgwyl i hynny barhau.”
‘Y darlun yn gwella’
Roedd tua 9,700 o drafodiadau yng Nghymru yn ystod chwarter olaf 2023 – sy’n ostyngiad bach o gymharu â’r chwarter blaenorol, ond 20% yn is na’r un cyfnod flwyddyn cynt.
“Yn sicr, bydd heriau o’n blaenau, ond mae’r rhagolygon ar gyfer 2024 yn gwella,” meddai Shaun Middleton wedyn.
“Mae’n bosibl y gallai mesurau Cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd i’w cyhoeddi ar 6 Mawrth 2024, geisio ysgogi gweithgarwch yn y farchnad a fyddai’n ei chyflymu ymhellach, ac wrth gwrs bydd tai yn amlwg yn y maniffestos sy’n cael eu paratoi ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol pan gaiff ei alw.
“I grynhoi, mae’r darlun yn gwella ar gyfer 2024.”