Mae pobol o Loegr yn “neidio dros y ffin” i “fanteisio” ar lwfans mwy hael ar gyfer ffioedd cartrefi gofal, yn ôl pennaeth yn un o gynghorau sir Cymru.

Mae swyddog cyllid gofal cymdeithasol Sir Fynwy yn dweud bod hynny’n golygu bod y sir ar y ffin wedi gorfod talu’r pris wrth i bobol ddod i Gymru er mwyn osgoi ffioedd cartrefi gofal – gan gyfrannu at orwariant o ryw £3m yn eu cyllideb ar gyfer gwasanaethau oedolion.

Mae Tyrone Stokes, rheolwr cyllid y Cyngor Sir ar gyfer gofal cymdeithasol ac iechyd, yn galw’r mater yn “dwristiaeth gymdeithasol”.

Roedd yn amlinellu’r pwysau o ran costau y bu’r Cyngor yn ei wynebu yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol gerbron pwyllgor craffu pan ddywedodd e fod yna rai costau gofal mae ganddyn nhw ddyletswydd i’w talu.

“Yn nhermau’r ystadegau yn Sir Fynwy, mae gennym ni boblogaeth ddemograffig sy’n heneiddio o hyd, a’r un peth ar draws y wlad, ond yn Sir Fynwy rydyn ni’n eithaf deniadol i bobol sy’n ymddeol, gan ddod â phobol hŷn i’r sir, ac rydyn ni hefyd yn dioddef o rywfaint o ’dwristiaeth gymdeithasol’, os gwnewch chi faddau i fi am ddefnyddio’r term yn ysgafn,” meddai wrth gynghorwyr.

“Mae Sir Fynwy yn fwrdeistref gefnog ac mae hi’n ffinio â nifer o siroedd Seisnig, ac mae’r drefn o godi ffioedd yng Nghymru’n dipyn mwy hael na Lloegr, felly rydyn ni’n gweld pobol yn neidio dros y ffin i geisio manteisio ar y rheiny.

“Felly rydyn ni’n dioddef yn fwy nag unrhyw awdurdod Cymreig arall ar y ffin, oherwydd gallai rhywun yn Lloegr fod yn nes at gartref neu gyfleuster gofal yng Nghymru nag y maen nhw at eu bwrdeistref Seisnig, os yw hynny’n gwneud synnwyr.”

Cefndir

Caiff ffioedd pobol sy’n mynd i mewn i ofal preswyl yng Nghymru eu talu drostyn nhw’n llawn os oes ganddyn nhw asedau gwerth llai na £50,000 – tra mai £14,250 yw’r ffigwr yn Lloegr.

Mae’r Cyngor wedi cadarnhau y gall pobol o Loegr fod yn gymwys am gymorth er mwyn talu eu costau gofal.

Dywedwyd wrth y pwyllgor fod nifer y bobol mae’r Cyngor yn ariannu eu gofal mewn cartrefi, ac eithrio cartref gofal Severn View yng Nghas-gwent y mae’n ei redeg, wedi cynyddu gan 10% ers dechrau’r flwyddyn ariannol ym mis Ebrill i 294 erbyn mis Medi.

Mae hynny’n golygu eu bod nhw’n talu am ofal 26 o bobol yn ychwanegol uwchlaw’r 268 lle roedden nhw’n talu amdanyn nhw ar ddechrau’r flwyddyn, gan gyfrannu at £1.25m ychwanegol o gostau.

Dywed Tyrone Stokes fod gan y Cyngor banel sicrwydd ansawdd erbyn hyn i ystyried pob pecyn gofal, sy’n edrych ar faterion gan gynnwys a oes modd darparu ailalluogi, ynghyd â’r lleoliad gofal mwyaf priodol.

Dywed adroddiad ar gyfer y pwyllgor fod “panel ceidwad porth” yn edrych ar bob cais am “becynnau gofal cost uchel gan gynnwys lleoliadau preswyl”.

Dywed fod rhan o’r cynnydd parhaus mewn lleoliadau preswyl o ganlyniad i’r defnydd ohonyn nhw pan fo cost gofal mewn cartref yn fwy na lleoliad preswyl.

Ymateb y Cyngor

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cadarnhau y gall pobol sy’n symud i gartrefi gofal yn Sir Fynwy o Loegr fod yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol gan yr awdurdod lleol, yn dibynnu ar asesiad ariannol drwy brawf moddion, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

“Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau cyllid, rydym yn ystyried ein holl opsiynau, gan gynnwys sefydlu ym mle ddylai preswylfa gyffredin fod, gan fod hyn yn pennu pa awdurdod lleol ddylai fod yn gyfrifol,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.

Dywed y llefarydd fod “nifer o ffactorau” wrth ystyried lleoliad cartref gofal, gan gynnwys lleoliad y cleient a’u teuluoedd, addasrwydd ac argaeledd.

Dywed adroddiad y pwyllgor hefyd fod tanwariant eraill yn y gyllideb ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys £1.1m drwy grant gweithlu gofal cymdeithasol, a £900,000 mewn perthynas â gwasanaeth cymorth Fy Niwrnod, Fy Mywyd ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu a swyddi gwag ar gyfer gofal cartref, wedi helpu i leddfu’r pwysau cyllidebol ond wedi cuddio’r “gorwariant gwaelodol gwirioneddol sy’n agosach at £5m”.

Mewn cyfarfod arall o’r pwyllgor craffu, daeth cadarnhad fod y Cyngor Sir wedi anfonebu 735 o gleientiaid am ofal gan gynnwys gofal cartref, gofal saib a gofal dydd, a bod 165 o becynnau gofal wedi’u hasesu fel eu bod nhw’n rhydd rhag unrhyw gostau, pan gafodd yr anfonebau misol diweddaraf eu prosesu.