Mae ffoaduriaid o Wcráin wedi plannu perllan yng Nghaerffili i ddatgan eu diolch i’r Cymry wnaeth eu croesawu nhw yn dilyn ymosodiad Rwsia ar eu gwlad.
Waeth beth sy’n digwydd yn y dyfodol, mae yna gysylltiad rhwng Cymru ac Wcráin nawr, yn ôl un o’r trefnwyr.
Yn ystod y digwyddiad ddydd Sadwrn (Ionawr 27), fe wnaeth yr Wcreiniaid ganu ‘Calon Lân’, ynghyd â pherfformio cerddoriaeth o Wcráin ac arddangos eu diwylliant nhw hefyd.
Fe wnaeth nifer o wleidyddion – yn Aelodau Seneddol, Aelodau o’r Senedd a chynghorwyr lleol – ymuno i blannu’r Berllan Ddiolchgarwch ym Mharc Morgan Jones.
Roedd y digwyddiad yn un “emosiynol iawn”, meddai Yuliia Bond, wnaeth ffoi o ddwyrain Wcráin pan wnaeth Rwsia ymosod ar ei gwlad ym mis Chwefror 2022.
“Fel Wcreiniaid roedden ni eisiau dangos ein diolch ers peth amser, ac roedden ni eisiau dod o hyd i ffordd i wneud hynny cyn meddwl am y syniad o greu perllan ddiolchgarwch,” meddai wrth golwg360.
“Dydyn ni ddim wastad yn dangos ein diolch drwy eiriau, ond roedden ni eisiau gwneud rhywbeth.”
Canu’n Gymraeg a dysgu’r iaith
Bu Yuliia Bond yn rhedeg clwb sgwrsio Saesneg i ffoaduriaid yng Nghaerffili, ond mae hi’n pwysleisio eu bod nhw’n gwneud ymdrech i ddysgu Cymraeg hefyd.
“Rydyn ni’n trio dysgu a chanu yn Gymraeg, rydyn ni’n trio gwneud hyn i ddangos parch,” meddai.
“Cafodd ein hiaith ni ei gorthrymu am nifer o flynyddoedd hefyd, rydyn ni’n teimlo mwy o gysylltiad gyda Chymru mewn sawl ffordd.”
Treuliodd y criw bythefnos yn dysgu ‘Calon Lân’ er mwyn canu yn y digwyddiad.
“I ddangos ein parch tuag at y diwylliant, Cymru a’r iaith Gymraeg rydyn ni’n dysgu Cymraeg, a dyna pam ein bod ni wedi penderfynu canu’r gân,” meddai wedyn.
“Pwrpas y digwyddiad oedd rhoi cyfle i Wcreiniaid ddatgan eu diolch i Gymru a phobol yng Nghymru.
“Waeth beth sy’n digwydd yn y dyfodol, rydyn ni’n credu bod yna gysylltiad rhwng ein gwledydd.”
Wrth adrodd araith gafodd ei hysgrifennu gan aelod arall o’r gymuned Wcreinaidd yng Nghaerffili, cyfeiriodd Yuliia Bond at ymweliad emosiynol â Sain Ffagan a dysgu am y Welsh Not.
“Fe wnes i, neu fy mam, brofi’r un peth yn ystod cyfnod yr Undeb Sofietaidd, pan oedd yr iaith Wcreineg gyfystyr ag anwybodaeth, yn rhywbeth gwledig, yn rhywbeth i fod â chywilydd ohoni, yn rhywbeth i chwerthin arni.
“Ond rydych chithau a ninnau wedi goroesi, ac rydyn ni’n falch o hynny.
“Rydych chi’n canu rhywbeth rydyn ni’n barod i’w bigo lan: rydyn ni dal yma. ‘Er gwaethaf pawb a phopeth, ry’n ni yma o hyd’.”
‘Golygu lot’
Cafodd y berllan ei phlannu gan ffoaduriaid ddaeth i ardal Caerffili, ynghyd â’r teuluoedd wnaeth gynnig llety iddyn nhw.
Ymysg y gwleidyddion fu’n rhan o’r achlysur, roedd Mike Adams, Maer Caerffili; Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru; Delyth Jewell a Peredur Owen Griffiths, Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd; ac Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru.
“Y syniad oedd plannu’r coed efo nhw, a dangos undod. O’m safbwynt i, roeddwn i eisiau i Wcrainiaid deimlo’r gefnogaeth hefyd,” meddai Yuliia Bond.
“Roeddwn i eisiau i ni ddod ynghyd i ddangos ein diolch, ac o safbwynt y gwleidyddion i ddangos nad ydy’r gefnogaeth tuag at Wcreiniaid wedi dod i ben.
“Cafodd hynny ei ddangos gan ran y gwleidyddion yn y digwyddiad, ac roedd hynny’n ysbrydoledig iawn i Wcreiniaid ac yn golygu lot.”