Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cymeradwyo cynnig hen ysgol i gymuned yng Ngheredigion ei phrynu.
Yn ôl Alan Henson, cadeirydd Cymdeithas Clotas, mae’n “newyddion arbennig o dda” fod y Cyngor wedi dod i benderfyniad unfrydol tros ddyfodol adeilad yr hen Ysgol Cribyn.
Dywed y gall y criw “fwrw ymlaen o ddifri nawr”, ar ôl gwylio trafodaeth y Cyngor yn fyw ar-lein.
“O fewn y mis nesa’, mi fydd y Cyngor wedi clirio’r stwff maen nhw’n storio o ’na, ac mi fydd yn glir i’r penseiri ddechrau creu cynlluniau go iawn ar gyfer troi rhan helaetha’r adeilad yn ganolfan gymunedol hyblyg a chysurus, a’r Tŷ’r Ysgol gynt yn gartre fforddiadwy ar gyfer teulu lleol,” meddai.
Creu Cymdeithas Fudd Gymunedol
Ers dechrau’r flwyddyn, mae Elliw Dafydd, Swyddog Datblygu’r prosiect, wedi bod yn paratoi ar gyfer y cam mawr nesaf, sef creu Cymdeithas Fudd Gymunedol Ysgol Cribyn.
“Nawr fod y Cabinet wedi rhoi eu sêl bendith, gallwn fwrw ymlaen â’r ymgyrch i werthu cyfranddaliadau fel y bydd cynifer â phosib o bobol yr ardal yn dod yn gyd-berchnogion ar yr ased bwysig hon,” meddai.
Bydd hi hefyd yn helpu Cymdeithas Clotas i geisio am arian gan nifer o gyrff cyhoeddus sy’n cefnogi datblygiadau cymunedol.
“Mae’r cyngor wedi rhoi chwe mis i ni symud ymlaen â’r pryniant,” meddai wedyn.
“Rhaid i ni fwrw ati’n weddol fach o slic, felly, os ydyn ni am weld y cynllun cyffrous hwn yn llwyddo.”
Bwriad nesa’r grŵp llywio yw cynnal sesiwn o drafod syniadau o ran anghenion a phosibiliadau’r ganolfan newydd yn ystod Ffair Sant Silin, brynhawn dydd Sadwrn, Chwefror 10.
“Yn ystod y ddathliad hwn o nawddsant y pentre mi fyddwn yn defnyddio syniadau cynta’r pensaer i’n ysgogi i feddwl pa fath o ganolfan ydyn ni am i’r ysgol fod,” meddai Alan Henson.
“Mi fydd hefyd yn gyfle i longyfarch swyddogion a chynghorwyr y sir ar eu penderfyniad a fydd, gobeithio, yn agor pennod gynhyrchiol newydd yn hanes Cribyn.”