Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu hannog gan un o’u haelodau eu hunain i werthu’r fferm gafodd ei phrynu ar gyfer Gŵyl y Dyn Gwyrdd.
Dywed Mike Hedges, Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain Abertawe, na ddylai gweinidogion erioed fod wedi prynu Fferm Gilestone ger tref Crughywel ym Mhowys.
Gwariodd Llywodraeth Cymru £4.25m ar fferm Gilestone, ond maen nhw’n dweud nad oes cynlluniau i’r ŵyl gael ei symud i’r fferm.
Pennaeth a pherchennog yr ŵyl yw Fiona Stewart, fu’n ymgynghorydd i’r Cyngor Prydeinig a’r Swyddfa Dramor mewn swyddi blaenorol.
Mae’n cyflogi 200 o bobol yn llawn amser, tra bod 5,000 o weithwyr eraill yn gweithio i’r ŵyl, naill ai dros dro neu’n wirfoddol.
Ers hynny, daeth i’r amlwg ar ôl i’r llywodraeth brynu’r fferm eu bod yn dal i aros i ŵyl Fiona Stewart gyflwyno cynllun busnes llawn.
Roedd awgrym nad oedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn unrhyw gyngor gan gwmnïau na sefydliadau yn y diwydiant cerddoriaeth cyn prynu’r fferm, ond maen nhw’n dweud bod Cymru Greadigol wedi rhoi cyngor ar y mater.
Roedd ymchwiliad wedi cael ei lansio gan y gwasanaeth sifil hefyd i ginio lle’r oedd dau weinidog, Jeremy Miles a Julie James, yn bresennol ynghyd â phennaeth yr ŵyl, Fiona Stewart, yng nghartref Cathy Owens, lobïwr a phennaeth cwmni Deryn, sy’n cynrychioli Gŵyl y Dyn Gwyrdd.
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton, fod gweinidogion wedi gweithredu gyda “phrysurdeb” i brynu’r fferm, ac nad oedd swyddogion “yn cadw cofnod o faterion gafodd eu trafod” gyda’r cwmni, mewn cyfarfodydd.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod adroddiad yr archwilydd yn dweud yn glir bod y broses gaffael wedi dilyn “prosesau priodol” ac yn “werth am arian”.
Ddylai Llywodraeth Cymru “fyth fod wedi ymyrryd yn y lle cyntaf”
“Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn ddefnydd da o adnoddau,” meddai Mike Hedges.
“Mae gennym ni bethau y gallwn ni eu gwneud gyda’r math yna o arian.
“Dydw i ddim yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ariannu prosiectau twristiaeth.
“Faint mae gwyliau cerddorol o gwmpas Prydain yn ei dderbyn gan awdurdodau lleol neu Lywodraeth San Steffan?
“Mae’r bobol yma yn ei redeg e – maen nhw’n gwneud arian ac maen nhw’n ei redeg e fel menter fasnachol.
“Dwi’n meddwl ei bod hi’n hen bryd i rai sefydliadau benderfynu os ydyn nhw’n fasnachol neu beidio.”
Ychwanegodd Mike Hedges na ddylai Llywodraeth Cymru “fyth fod wedi ymyrryd yn y lle cyntaf”.
“Polisi economaidd sy’n dilyn hoel traed Gwlad Groeg”
“Os yw’r Dyn Gwyrdd eisiau ei phrynu, does gen i ddim problem gyda’i gwerthu i’r Dyn Gwyrdd am y pris wnaethon ni ei dalu,” meddai wedyn.
“Un o fy mhryderon gwirioneddol yng Nghymru yw ein hobsesiwn gyda ffermio a thwristiaeth.
“Mae’n ymddangos nad ydyn ni’n sylweddoli nad nhw yw’r diwydiannau sy’n eich gwneud chi’n gyfoethog.
“Bron bod gennym bolisi economaidd sy’n dilyn ôl traed Groeg, ein bod yn ceisio efelychu hynny.”