Rhaid i Gyllideb San Steffan fis nesaf ddarparu mwy o arian i wasanaethau cyhoeddus Cymru, yn ôl Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru.

Mewn cyfarfod rhwng gweinidogion cyllid gwledydd y Deyrnas Unedig, galwodd Rebecca Evans ar Lywodraeth San Steffan i fuddsoddi mwy mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghyllideb y Gwanwyn.

Wrth wneud y galwadau yn y cyfarfod yng Nghaeredin, dywedodd Rebecca Evans fod angen mwy o arian i’w helpu i ymateb i’r “pwysau sylweddol” sydd ar wasanaethau yn sgil chwyddiant.

‘Unioni’r £1.1bn o gyllid coll’

Dywed Rebecca Evans ei bod hi wedi dweud wrth Brif Ysgrifennydd Trysorlys y Deyrnas Unedig nad yw’r cyllid ychwanegol gafodd ei gyhoeddi ar gyfer Cymru yng Nghyllideb yr Hydref yn ddigon i fynd i’r afael ag effaith chwyddiant.

“Mae ein setliad tair blynedd yn dal i fod yn werth hyd at £3bn yn llai mewn termau real na phan gafodd y cyllid ei gyhoeddi yn 2021,” meddai.

“Gwnaethom hefyd drafod yr effaith mae penderfyniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig am gyllid yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd wedi’i chael ar Gymru.

“Rwy’n ceisio sicrhau ymrwymiad brys i unioni’r £1.1bn o gyllid rydym wedi’i golli oherwydd trefniadau cyllido ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

“Rwyf hefyd wedi galw eto am rôl briodol inni mewn penderfyniadau. Ni ddylai’r cyfrifoldeb dros gymeradwyo prosiectau cyfalaf yng Nghymru fod yn nwylo’r Adran Ffyniant Bro neu’r Trysorlys yn unig.

“Pan ddaw hi at wariant yng Nghymru mewn meysydd sydd wedi’u datganoli, mae’n glir y dylai fod gan Weinidogion Cymru rôl.”

Ychwanegodd ei bod hi wedi rhoi pwysau ar Brif Ysgrifennydd Trysorlys San Steffan i sicrhau bod trethi ar gyfer cwmnïau ynni fel Shell a BP yn gweithio’n effeithiol.

“Rhaid cau unrhyw fylchau fel y bydd y swm priodol yn cael ei adfer drwy drethi ffawdelw i gefnogi’r rhai sy’n ei chael yn anodd ymdopi â chostau ynni.”