Mae undeb addysg wedi cytuno i ohirio streic oedd wedi cael ei threfnu at wythnos nesaf.

Yn dilyn sgyrsiau “manwl” â Llywodraeth Cymru, mae NEU Cymru (Undeb Addysg Cenedlaethol) wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r diwrnod o weithredu yng Nghymru ar Chwefror 14.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cadarnhau bod cynnig cyflog gwell wedi’i wneud i undebau llafur athrawon a phenaethiaid.

Ar ben y codiad cyflog o 5%, mae’r cynnig cyflog newydd yn cynnwys 3% arall, gyda 1.5% ohono’n cael ei dalu mewn un taliad.

Mae’r pecyn diwygiedig yn cynnwys nifer o ymrwymiadau sy’n gysylltiedig â llwyth gwaith yn y tymor byr, canolig a hir hefyd.

‘Parodrwydd i drafod’

Dywed Kevin Courtney, Cyd-ysgrifennydd Cyffredinol NEU, fod parodrwydd Llywodraeth Cymru i drafod y sefyllfa yn “gwbl groes” i safbwynt San Steffan.

“Rydyn ni nawr wedi cael cyfres o sgyrsiau yng Nghymru, a’r ffocws wedi bod ar ddatrys yr anghydfod,” meddai.

“Er bod y cynnig yn parhau’n sylweddol is na gofynion ein haelodau ac nad yw’n dechrau mynd i’r afael â’r toriadau termau real i gyflogau athrawon ers 2010, bydd yr Undeb yn trafod gyda’n canghennau a’n cynrychiolwyr mewn gweithleoedd er mwyn cael barn aelodau yng Nghymru.

“Yn y cyfamser, bydd streic dydd Mawrth nesaf yn cael ei gohirio tan Fawrth 2.

“Byddwn ni’n parhau i alw am gael y 3% i gyd mewn un taliad,” ychwanega.

Llwyth gwaith

Wrth gyfeirio at faterion eraill yn y cynnig, dywed David Evans, Ysgrifennydd Cymru’r Undeb, fod llwyth gwaith yn parhau i fod yn “fater enfawr” i aelodau.

“Rydyn wedi mynegi ein barn wrth Lywodraeth Cymru, sydd wedi awgrymu eu bwriad i fynd i’r afael â’r hyn sydd wedi troi’n bwysau anghynaladwy ar y gweithlu. Bydd hynny’n cael ei groesawu ar draws y maes,” meddai.

“Mae yna gytundeb i adolygu argymhellion Bwrdd Adolygu Tâl Annibynnol Cymru ar gyfer cyflogau’r flwyddyn academaidd 2023/24 hefyd.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddarparu tystiolaeth fanwl ar effaith chwyddiant cynyddol a’r argyfwng costau byw i’r bwrdd.”

‘Falch’ o’r cynnig uwch

Yn y cyfamser, mae undeb penaethiaid ac arweinwyr ysgolion NAHT Cymru wedi dweud eu bod nhw’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnig uwch.

“Er nad yw’n mynd i’r afael yn llawn â’r gostyngiad o 22% yng nghyflogau arweinwyr ysgolion yng Nghymru ers 2010, mae’n awgrym cryf o barodrwydd ar bob ochr i ddechrau mynd i’r afael â’r mater,” meddai Laura Doel, cyfarwyddwr NAHT Cymru.

“Bydd NAHT Cymru nawr yn trafod gyda’n haelodau ac yn rhoi’r cynnig iddyn nhw.

“Wrth edrych ar y cynnig, byddan nhw’n ystyried y cynnig o fwy o arian eleni, yn ogystal â’r cytundeb i edrych ar lwyth gwaith ac ailagor trafodaethau ar gyflogau 2023/24.”

Bydd yr undeb yn cynnal pleidlais ymysg eu haelodau rhwng Chwefror 15 a 22.