Mae Alex Davies-Jones, Aelod Seneddol Llafur Pontypridd, wedi ymddiheuro ar ôl cael ei chanfod yn euog o dorri rheolau lobïo “bychan ac anfwriadol”.

Fe ofynnodd y llefarydd Technoleg, Gamblo a’r Economi Ddigidol gwestiwn ynglŷn â’r Cyngor Prydeinig ddiwrnod ar ôl dychwelyd o daith i Japan oedd wedi’i hariannu gan y sefydliad.

Mewn gohebiaeth â’r Comisiynydd Safonau Seneddol Daniel Greenberg, fe dderbyniodd y camgymeriad, gan ddweud bod “hyn yn anfwriadol, ac yn un yr wyf yn ymddiheuro amdano”.

Argymhellodd Pwyllgor Safonau Tŷ’r Cyffredin na ddylai Alex Davies-Jones wynebu unrhyw gosb bellach.

“Roedd hwn yn doriad bach ac anfwriadol o’r Côd,” meddai adroddiad y pwyllgor.

“Mae Ms Davies-Jones wedi ymddiheuro i’r Comisiynydd am dorri’r rheolau.”

Aelod Seneddol Pontypridd yn destun ymchwiliad am achos posib o dorri rheolau lobïo

Mae Alex Davies-Jones wedi cynrychioli sedd Pontypridd ers 2019