Mae yna ddiffyg dealltwriaeth ynghylch Enseffalopathi Myalgig, neu ME, ymysg cymdeithas a’r proffesiwn meddygol, medd un sy’n byw â’r salwch.
Mae ME, neu Syndrom Blinder Cronig, yn salwch hirdymor sy’n achosi sawl symptom, ond y prif un yw blinder eithafol.
Yn aml, mae pobol sydd â’r cyflwr yn teimlo ar eu pennau eu hunain, meddai Victoria Hon, sy’n trefnu Paned a Sgwrs i bobol efo ME yn Nyffryn Ogwen.
Bydd y digwyddiad yng Nghanolfan Cefnfaes ym Methesda ar Chwefror 15 yn gyfle i bobol rannu profiadau a chael cwmni eraill sydd â’r cyflwr.
Wrth drafod ei chyflwr ei hun gyda golwg360, mae Victoria Hon, sy’n byw ym Methesda, yn dweud sut mae’r cyflwr wedi effeithio arni a’r sialensiau a’r unigrwydd sydd yn dod yn ei sgil.
“Cefais ddiagnosis i ddechrau yn wyth oed, dw i bellach yn 50,” meddai.
“Roeddwn yn gaeth i’r gwely am saith mlynedd.
“Dw i mewn cyfnod mwy sefydlog ar hyn o bryd.
“Gall, ac mae yn, effeithio ar bob agwedd o fy mywyd.
“Dw i’n credu bod canran uwch o bobol mewn cymdeithas gydag ME nag ydym yn sylwi neu’n gwybod.
“Dw i’n meddwl ei fod yn cael ei gamddeall, a dydy’r cyflwr ddim yn cael ei drin yn deg gan y proffesiwn meddygol.”
“Salwch niwrolegol”
Salwch niwrolegol ydy ME, a gall effeithio ar unrhyw un, ond mae’n fwy cyffredin ymysg menywod, ac mae pobol yn tueddu i ddechrau cael symptomau pan maen nhw rhwng canol eu hugeiniau a chanol eu pedwardegau.
Gall y symptomau gynnwys problemau gyda chanolbwyntio, cof a’r meddwl, problemau cwsg, a theimlad o fod wedi blino hyd yn oed ar ôl cysgu neu orffwyso.
Does yna ddim gwellhad i ME ar hyn o bryd, ac mae triniaethau ar ei gyfer yn anelu at liniaru’r symptomau.
“Fel unrhyw salwch niwrolegol, os byddwch yn ei gael, byddwch yn ei gael,” meddai Victoria Hon.
“Mae fel Parkinsons, MS a chlefyd motor niwron; os ydych chi’n rhywun sydd wedi cael diagnosis ohono, rydych chi’n dysgu byw ag ef.”
Pwysigrwydd y grŵp
Yn ôl Victoria Hon, bydd y grŵp yn gyfle i bobol ag ME gael gwybod am gymorth sydd ar gael iddyn nhw.
“Yn aml iawn, mae pobol sydd â’r salwch hwn yn cael eu trin yn wael gan y proffesiwn meddygol a chymdeithas, felly dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig i bobol gael lle, pan maen nhw’n teimlo’n ddigon iach, i siarad am y profiadau hyn, i drosglwyddo gwybodaeth a chymorth,” meddai.
“Yn aml iawn, mae pobol yn cael diagnosis a dydyn nhw ddim yn gwybod dim amdano.
“Dw i’n gobeithio rhoi gwybod i bobol nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain yng Ngwynedd.
“Mae yna bobol allan yna.”