Mae Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, yn rhybuddio bod trigolion cefn gwlad Cymru’n wynebu toriadau i wasanaethau hanfodol, gyda gwasanaethau bysus dan fygythiad yn sgil ansicrwydd am gymhorthdal llywodraeth.
Mae’n annog Llywodraeth Cymru i ymrwymo i ddiogelu’r Cynllun Argyfwng Bws, sy’n rhoi cymhorthdal i lawer o deithiau bysiau yng nghefn gwlad Dwyfor Meirionnydd.
Mae cwmnïau bysus, sydd wedi cysylltu â Mabon ap Gwynfor, ar ddeall bod Llywodraeth Cymru’n bwriadu rhoi’r gorau i ariannu’r Cynllun Argyfwng Bws a allai, o ganlyniad, adael miloedd o bobol heb fynediad at wasanaethau hanfodol.
Cafodd y Cynllun Argyfwng Bws ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru pan darodd pandemig Covid-19 fis Mawrth 2020.
Cafodd y cyhoedd gyngor i beidio â theithio, ac felly daeth refeniw incwm y cwmnïau bysiau i ben.
Ers ei chyflwyno, mae menter BES wedi esblygu i BES 3, ac fe ddaw i ben ar Fawrth 31 ar ôl bod o gymorth hanfodol i lawer o awdurdodau lleol a chwmnïau bysiau wrth gynnal teithiau allweddol mewn cymunedau gwledig.
‘Colli mynediad cyfleus i wasanaethau hanfodol’
“Mewn ymateb i gwestiynau gennyf heddiw, dywedodd y Dirprwy Weinidog fod darparu trafnidiaeth gyhoeddus yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon,” meddai Mabon ap Gwynfor.
“Ond mae darparwyr gwasanaethau bysiau wedi cysylltu â mi a’m cydweithwyr gan ddweud wrthym fod y llywodraeth am roi’r gorau i’w Cynllun Argyfwng Bws (BES), sy’n rhoi cymhorthdal i lawer o’n siwrneau mwyaf gwledig.
“Bydd y toriad hwn yn arwain at filoedd o bobol yn colli mynediad cyfleus i wasanaethau hanfodol.
“Mae’r prinder bysiau mewn ardaloedd gwledig a’r pwysau cynyddol ar weithredwyr yn gadael mwy o bobol nag erioed o’r blaen yn ynysig, gyda’r rhai na allan nhw fynd yn annibynnol i’r gwaith, y siopau neu i weld y meddyg yn troi at ffrindiau, tacsis a thrafnidiaeth gymunedol.
“Os yw’r llywodraeth o ddifrif am flaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus, yna rhaid iddyn nhw sicrhau bod y Cynllun Argyfwng Bws yn parhau y flwyddyn nesaf neu fentro gwaethygu’r problemau trafnidiaeth sydd eisoes yn endemig yn ein cymunedau gwledig.”
‘Achubiaeth hanfodol’
“Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau bysiau yn ein cymunedau gwledig,” meddai Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
“I’r henoed a’r bregus, maen nhw’n achubiaeth hanfodol ar gyfer apwyntiadau meddygol a siopa, tra bod llawer o drigolion eraill yn dibynnu arnyn nhw i deithio i’r gwaith ac yn ôl.
“Mae’r ansicrwydd presennol ynghylch cyllid yn peryglu dyfodol llawer o deithiau bysiau allweddol – ac mae’n debygol o gael effaith drychinebus ar ein cymunedau gwledig, ynghyd â thanseilio ymrwymiadau trafnidiaeth gyhoeddus ehangach.
“Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r trefniadau ariannu ar gyfer ein bysiau ar fyrder.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi darparu £48m o gyllid bws brys i’r diwydiant yn ystod y flwyddyn ariannol hon i gynnal gwasanaethau bysiau yng Nghymru, ac oddeutu £150m ers dechrau’r pandemig.
“Mae’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ein gadael â chyfres o benderfyniadau anodd i’w gwneud wrth i ni fantoli’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf,” meddai llefarydd.
“O ganlyniad, yn anffodus nid ydym wedi bod mewn sefyllfa i gadarnhau pecyn ariannu’r diwydiant bysiau cyn i’r cyfnod rhybudd o 56 diwrnod ddechrau ddydd Gwener, Chwefror 3.
“Mae hwn yn gyfnod anodd i bawb dan sylw a byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r diwydiant ac awdurdodau lleol i leihau’r effaith ar y cyhoedd.
“Byddwn yn darparu diweddariadau pellach cyn diwedd yr wythnos.”