Does dim modd “ymddiried yn Llafur gydag arian cyhoeddus”, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Daw hyn ar ôl i adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ddweud bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i brynu Fferm Gilestone, lleoliad Gŵyl y Dyn Gwyrdd, wedi’i wneud gyda “brys y gellid ei osgoi” a “risg”.

Gwariodd Llywodraeth Cymru £4.25m ar fferm Gilestone ger tref Crughywel ym Mhowys, ond maen nhw’n dweud nad oes cynlluniau i’r ŵyl gael ei symud i’r fferm.

Pennaeth a pherchennog yr ŵyl yw Fiona Stewart, fu’n ymgynghorydd i’r Cyngor Prydeinig a’r Swyddfa Dramor mewn swyddi blaenorol.

Mae’n cyflogi 200 o bobol yn llawn amser, tra bod 5,000 o weithwyr eraill yn gweithio i’r ŵyl, naill ai dros dro neu’n wirfoddol.

Ers hynny, daeth i’r amlwg ar ôl i’r llywodraeth brynu’r fferm eu bod yn dal i aros i ŵyl Fiona Stewart gyflwyno cynllun busnes llawn.

Roedd awgrym nad oedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn unrhyw gyngor gan gwmnïau na sefydliadau yn y diwydiant cerddoriaeth cyn prynu’r fferm, ond maen nhw’n dweud bod Cymru Greadigol wedi rhoi cyngor ar y mater.

Roedd ymchwiliad wedi cael ei lansio gan y gwasanaeth sifil hefyd i ginio lle’r oedd dau weinidog, Jeremy Miles a Julie James, yn bresennol ynghyd â phennaeth yr ŵyl, Fiona Stewart, yng nghartref Cathy Owens, lobïwr a phennaeth cwmni Deryn, sy’n cynrychioli Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Fodd bynnag, mae Jeremy Miles yn mynnu mai “achlysur cymdeithasol” oedd y cinio hwn, ac na chafodd “unrhyw fusnes gweinidogol ei drafod”.

Cafodd yr ymchwiliad ei gwblhau fis Awst y llynedd, ac fe ddaeth i’r casgliad nad oedd y Cod Gweinidogol wedi’i dorri yn sgil y digwyddiad, ac nad oedd yr un o’r ddau weinidog wedi gwneud unrhyw benderfyniadau mewn perthynas â phrynu Fferm Gilestone.

Er na ddisgwylir i’r naill Weinidog na’r llall wneud unrhyw benderfyniadau mewn perthynas â Fferm Gilestone, o ystyried y risg tybiedig, ni fydd y ddau Weinidog yn gwneud unrhyw penderfyniadau ar hyn yn y dyfodol.

‘Drewi’

“Mae pob diweddariad ar y stori hon yn drewi, mae’r holl beth yn drewi,” meddai Andrew RT Davies.

“Nawr, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn tynnu sylw at y ffaith bod y Llywodraeth Lafur wedi mabwysiadu risg y gellid bod wedi’i hosgoi a brysio yn ei phenderfyniad i wario miliynau o arian y trethdalwyr ar Fferm Gilestone i gefnogi un fenter benodol mewn modd y byddai busnesau eraill wedi gorfod cynhyrchu tystiolaeth helaeth ar ei chyfer.

“Mae’r holl beth yn dangos nad oes modd ymddiried yn Llafur gydag arian cyhoeddus.

“Mae’n chwerthinllyd fod gweinidogion Llafur wedi talu’r union swm y dywedodd y Dyn Gwyrdd y byddai’n ei gostio, gan nodi ei fod wedi methu trafod yn ddigonol.

“Rwy’n gobeithio y bydd y pwynt hwn a’r nifer o faterion problematig eraill gafodd eu hamlygu gan yr adroddiad yn parhau i gael eu craffu gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.”

Yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru, cafodd swm o £4.25m ei gytuno i brynu’r fferm, a hynny yn erbyn gwerthusiad annibynnol gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru mai £4.325 oedd pris y farchnad.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae adolygiad Archwilio Cymru o’r broses hon yn dangos bod y caffaeliad yn cyd-fynd ag amcanion economaidd Llywodraeth Cymru a’i fod yn cynrychioli gwerth am arian,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae gwaith diwydrwydd dyladwy yn parhau ar gynllun busnes manwl fydd yn dod i ben yn ystod yr wythnosau nesaf.

“Ni fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud nes i’r broses diwydrwydd dyladwy gael ei gwblhau.”