Gall aelwydydd cymwys yng Ngwynedd hawlio taliad untro o £200 gan yr Awdurdod Lleol er mwyn helpu i dalu eu biliau tanwydd.
Mae hwn yn daliad ychwanegol i’r ad-daliad Bil Ynni gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a’r Taliad Tanwydd Gaeaf sy’n cael ei roi fel arfer i bensiynwyr.
Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd cymwys, efo un taliad i bob aelwyd, sut bynnag maen nhw’n talu am danwydd.
Pwy sy’n gymwys am y taliad?
Er mwyn derbyn y taliad, bydd angen i’r ymgeisydd fodloni pedwar amod.
Mae’n rhaid i Gyngor Gwynedd dderbyn ceisiadau ar gyfer y cynllun erbyn 5 o’r gloch ddydd Mawrth, Chwefror 28.
Mae rhywun hefyd yn gymwys os caiff ei benderfynu eu bod wedi’u heithrio rhag bod angen bodloni’r amod hwn.
Bydd y cynllun ar gael i aelwydydd lle mae ymgeisydd neu eu partner wedi derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol rhwng Medi 1 y llynedd a Ionawr 31 eleni – Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cymorth a Chyflogaeth Seiliedig ar Incwm, Credyd Cynhwysol, Credydau Treth Gwaith, Credydau Treth Plant, Credyd Pensiwn, Taliad Annibyniaeth Personol, Lwfans Byw i Bobol Anabl, Lwfans Gweini, Lwfans Gofalwyr, Lwfans Ceisio Gwaith Newydd/Cyfrannol, Lwfans Cymorth a Chyflogaeth Newydd/Cyfrannol, Taliad Annibyniaeth Lluoedd Arfog, Lwfans Presenoldeb Cyson, Pensiwn Rhyfel/Atodiad Symudedd.
Os nad yw deiliad tŷ, neu eu partner, sy’n atebol am dalu’r costau tanwydd yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau cymwys, dylid pennu neu ystyried bod deiliad y tŷ yn gymwys i gael taliad os oes person cymwys yn byw gyda nhw.
Mae person yn bodloni’r diffiniad o berson cymwys os yw’n meddiannu cartref deiliad y tŷ fel ei brif breswylfa, neu yn blentyn dibynnol neu’n oedolyn sy’n ddibynnol ar ddeiliad y tŷ neu eu partner, ac mae’n dael un o’r budd-daliadau hyn – Lwfans Gweini, Lwfans Byw i Bobol Anabl, Taliad Annibyniaeth Personol, Taliad Annibyniaeth Lluoedd Arfog, Lwfans Presenoldeb Cyson, Pensiwn Rhyfel/Atodiad Symudedd.
Amod Atebolrwydd am Danwydd
Mae ymgeisydd yn bodloni’r amod Atebolrwydd am Danwydd os ydyn nhw neu eu partner yn atebol am dalu’r dreth gyngor gan fod eu hatebolrwydd am dalu’r dreth gyngor yn cael ei ystyried yn gyfystyr ag atebolrwydd am dalu costau tanwydd.
Gall ymgeiswyr nad ydyn nhw’n gyfrifol am dalu’r dreth gyngor ddangos eu bod yn bodloni’r amod hwn drwy ddarparu tystiolaeth mai nhw sy’n gyfrifol am dalu’r costau tanwydd ar gyfer eu heiddo.
Mae hyn yn wir p’un a ydy’r tanwydd yn cael ei brynu drwy fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy fil chwarterol os yw’r tanwydd ar y grid neu oddi arno.
Dim ond mewn eiddo yng Nghymru y gall ymgeiswyr hawlio am gostau tanwydd, a lle caiff ei ystyried bod yr eiddo hwn yn brif breswylfa iddyn nhw.
Amod Taliad
Dim ond un taliad o’r cynllun hwn all ymgeisydd ei gael.
Bydd ymgeisydd yn bodloni’r amod hwn os nad ydyn nhw neu eu partner eisoes wedi derbyn taliad o dan Gynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Llywodraeth Cymru yn 2022/2023.
Rhaid gwneud y cais erbyn 5 o’r gloch ar Chwefror 28.