Mae Hybu Cig Cymru wedi bod yn croesawu dosbarthwyr bwyd o Ffrainc, sy’n un o’r marchnadoedd allforio mwyaf ar gyfer cig coch Cymreig.

Daeth cynrychiolwyr cwmnïau, sy’n cynnwys cydweithredwyr bwyd amaethyddol a chyflenwyr cig o farchnad Rubis, i Gymru yr wythnos hon fel rhan o’u hymrwymiad i ddod o hyd i gig oen Cymreig a’i werthu.

Yn ystod y daith, fe fu trafodaeth ynghylch sut caiff cig oen Cymreig ei gynhyrchu ar ffermydd teuluol gan ddilyn safonau cynaliadwyedd a lles anifeiliaid o’r radd flaenaf.

Daw’r ymweliad yn fuan ar ôl i Hybu Cig Cymru a phroseswyr cig Cymreig fod mewn sioe fasnach SIRHA yn Lyon, sy’n ddigwyddiad busnes mawr ar gyfer y sector gweini bwyd a lletygarwch.

‘Partner masnachu hanfodol’

Yn ôl Jon Parker, Pennaeth Darpariaeth y Gadwyn Gyflenwi, mae Ffrainc yn “bartner masnachu hanfodol” i ffermwyr Cymru.

“Mae allforion cig oen i farchnad Ffrainc ar eu pennau eu hunain yn werth dros £70m y flwyddyn i Gymru, gyda maint sylweddol yn cael ei ddosbarthu trwy Rungis yn Paris,” meddai.

“Mae’r sector gwasanaeth bwyd yn tyfu eto ar ôl dwy flynedd anodd o gyfyngiadau Covid, felly mae’n hanfodol ein bod ni’n ymgysylltu â rhai o’r prif gwmnïau dosbarthu bwyd yn Ffrainc mewn digwyddiadau masnachu a dangos iddyn nhw eu hunain sut rydym yn cynhyrchu cig oen Cymreig.

“Mae gennym stori wych i’w hadrodd yn nhermau ansawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol, ac rydym yn benderfynol bod ein cwsmeriaid selog yn Ffrainc a’n partneriaid newydd posib yn llwyr ymwybodol o rinweddau cig oen PGI Cymreig.”