Mae diwydiant melinau gwlân Cymru yn wynebu her sylweddol wrth geisio addasu i’r dyfodol a chwrdd â galw marchnad sy’n newid yn gyson, yn ôl ymchwil newydd gan y cynllun Gwnaed â Gwlan.
Cafodd yr astudiaeth ei chomisiynu mewn ymateb i rwystredigaeth dylunwyr tecstilau oedd yn awyddus i gael gwehyddu eu gwaith yng Nghymru ond yn methu oherwydd cyfyngiadau’r melinau.
O ganlyniad i sawl ffactor, mae melinau gwlân Cymreig yn gorfod gwrthod gwaith, ond yn bennaf oherwydd diffyg capasiti i gwrdd â’r galw.
Ar gyfer y rhai sy’n gallu derbyn gwaith comisiwn, mae amser aros o chwe mis.
Mae llawer o ddatblygiadau cadarnhaol ar y gweill, ond y pryder mwyaf erbyn hyn yw ceisio diogelu’r melinau at y dyfodol a chadw sgiliau yn fyw.
Gwnaed â Gwlân
Cafodd Gwnaed â Gwlân ei sefydlu i wireddu potensial gwlân Cymru, ac roedd cynnal yr astudiaeth yn rhan o’r gwaith hwnnw.
Mae’r adroddiad yn rhoi gwerthusiad o’r sefyllfa ac yn cynnig atebion i oresgyn rhai o’r heriau, yn ogystal ag adnabod cyfleoedd newydd.
Y gobaith yn y pen draw yw y bydd y gwaith yn arwain at roi camau yn eu lle i amddiffyn a hybu melinau gwlân yng Nghymru.
“Mae galw am gynnyrch gwlân o Gymru yn parhau i gynyddu a dyluniadau gwlân a charthenni Cymreig yn boblogaidd ar draws y byd,” meddai Elen Parry, rheolwr prosiect Gwnaed â Gwlân.
“Mae’r diwydiant wedi bod wrth galon sawl cymuned Gymreig ers canrifoedd – ond gyda’r heriau newydd mae angen cymorth a mwy o sicrwydd ar gyfer y dyfodol.
“Dyma ble mae Gwnaed â Gwlân yn ceisio chwarae rôl.
“Mae llawer yn mynd ymlaen yn barod i gefnogi busnesau, ac mae’n bwysig ein bod ni yn gweithredu ar y cyd er mwyn cefnogi’r diwydiant cynhenid yma.”
Tranc melinau gwlân
Yn ei anterth, roedd dros 300 o felinau gwlân yn gweithredu ar hyd a lled Cymru, ond bellach mae llai na phymtheg ar ôl.
O’r rhain, dim ond pump sy’n gweithio ar raddfa ddiwydiannol, ac er bod galw cynyddol am y cynnyrch mae peth ansicrwydd am ddyfodol y diwydiant.
“Mae hanes y felin hon yn mynd yn ôl sawl cenhedlaeth ac rydym yn gwerthu i gwsmeriaid o bob cwr o’r byd,” meddai Eifion Griffiths o Felin Tregwynt yn Sir Benfro.
“Mae newid wedi bod ym mhatrymau prynu cwsmeriaid yn ddiweddar gyda llawer eisiau prynu cynnyrch cynaliadwy ac yn lleol hefyd.
“Mae’r galw wedi parhau i gynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, sy’n newyddion da ar un llaw ond mae’n anodd dal i fyny â’r galw hwnnw.
“Mae llawer sy’n gweithio yn y maes yn hŷn ac mae’n ymdrech i nifer o fusnesau ddenu pobol ifanc i’r maes.
“Gyda chynllun fel Gwnaed â Gwlân, rwy’n hyderus bod cyfnod cyffrous o’n blaenau a chyfle i wneud gwahaniaeth er mwyn diogelu diwydiant sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn niwylliant a hanes cymunedau Cymreig.”
Digwyddiad i ddod â’r diwydiant ynghyd
Mae Gwnaed â Gwlân yn brosiect Cymru gyfan ac yn cael ei redeg gan Menter Môn.
Mae’n cael ei ariannu gan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020 a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).
Fel cam nesaf, mae Gwnaed â Gwlân yn cynnal digwyddiad ar Chwefror 16 yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre.
Bydd yn gyfle i berchnogion melinau a rhanddeiliaid y diwydiant ddod at ei gilydd ar gyfer cyflwyniadau a sgyrsiau am arloesedd gwlân a’r diweddaraf o’r prosiect.