Mae Liz Saville Roberts yn dweud ei bod hi’n “anrhydedd” cael bod yn San Steffan heddiw (dydd Mercher, Chwefror 8) i wrando ar anerchiad Arlywydd Wcráin.

Fe ddechreuodd Volodymyr Zelensky ei araith, sy’n cael ei thraddodi yn Saesneg, i fonllef o gymeradwyaeth gan aelodau seneddol o bob plaid sydd wedi ymgynnull yn Neuadd San Steffan.

Diolchodd i bobol yn y Deyrnas Unedig am eu cefnogaeth “ers y diwrnod cyntaf un”, gan ddweud ei fod e yno “ar ran pobol ddewr” ac “ar ran ein harwyr rhyfel sydd yn y ffosydd yn gwarchod Wcráin yn erbyn taflegrau gelynion”.

Fe wnaeth e ddiolch hefyd i’r Deyrnas Unedig am yr offer sydd wedi’i roi i filwyr a’r rhai dan hyfforddiant i fynd i ryfel, ac i Boris Johnson, cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Dywedodd fod gan Johnson “gryn gymeriad” a’i fod e “wedi uno pobol pan oedd yn ymddangos yn hollol, hollol amhosib”.

Wrth drafod y rhyfel yn fwy cyffredinol, dywedodd y byddai “rhyddid yn ennill” ac y byddai “Rwsia yn colli”.

Mae e hefyd wedi canmol sancsiynau’r Deyrnas Unedig yn erbyn Rwsia, gan ddweud bod rhaid iddyn nhw barhau hyd nes bod y Kremlin yn methu ariannu’r rhyfel bellach.

“Anrhydedd i wrando ar yr Arlywydd Zelensky yn annerch aelodau San Steffan,” meddai Liz Saville Roberts ar Twitter.

“Mae Plaid Cymru’n sefyll yn gadarn y tu ôl i bobol Wcráin yn wyneb rhyfel anghyfreithlon Putin.

“Mae heddwch parhaol yn galw am dynnu lluoedd Rwsiaidd o Wcráin a dal Putin i gyfrif am droseddau rhyfel.”