Mae pris cyfartalog litr o ddisel wedi gostwng o dan 170c am y tro cyntaf ers unarddeg mis.

Mae ffigyrau gan gwmni data Experian yn dangos bod gorsafoedd petrol y Deyrnas Unedig wedi codi 169.9c y litr ar gyfartaledd ddydd Llun (Ionawr 6).

Dyma’r tro cyntaf i’r pris fod yn rhatach na 170c ers Mawrth 9 y llynedd.

Mae’r gostyngiad mewn prisiau yn golygu bod y gost o lenwi car teulu 55 litr gyda disel wedi gostwng o’r lefel uchaf erioed o £109 ym mis Mehefin y llynedd i £93.

‘Newyddion da’

“Mae hyn yn newyddion da i yrwyr cerbydau disel gan eu bod wedi gorfod dioddef rhai cyfnodau anodd, gyda phris cyfartalog litr bron â tharo £2 ddiwedd Mehefin,” meddai Simon Williams, llefarydd tanwydd yr RAC.

“Ers hynny mae’r pris wedi gostwng 30c, gan arbed mwy na £16 ar danc llawn.

“Ond os yw manwerthwyr yn bod yn deg gyda gyrwyr, dylai’r pris ddisgyn ymhellach gan fod y pris cyfanwerthu bellach yn ôl i lefel a welwyd ddiwethaf tua’r adeg ymosododd Rwsia ar Wcráin.

“Hyd yn oed gyda manwerthwyr yn cymryd elw uwch na’r cyfartaledd o 10c y litr, dylai pris disel fod 10c yn is mewn gwirionedd ar 160c.”