Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam wedi cael eu cyhuddo o drosglwyddo’r cyfrifoldeb ar fater ariannu trafnidiaeth addysg ôl-16.
Cyn y Nadolig, roedd pwyllgor craffu Addysg Gydol Oes yr awdurdod wedi tynnu sylw at broblemau trafnidiaeth i ddisgyblion chweched dosbarth Ysgol Morgan Llwyd ac Ysgol Maelor yn Llannerch Banna, ar ôl clywed gan y penaethiaid.
Un o argymhellion y pwyllgor oedd gwneud cais i’r Bwrdd Gweithredol Annibynnol / Ceidwadol sy’n rheoli i edrych ar benderfyniad wnaed yn 2015, ac efallai ei ailystyried, i beidio ariannu trafnidiaeth ôl-16 yn sgil yr argyfwng costau byw presennol.
Ond pan aeth y mater gerbron y Bwrdd Gweithredol yr wythnos hon, fe wnaeth y Cynghorydd Phil Wynn o Frynffynnon a’r Aelod tros Addysg welliant hwyr i’r argymhellion, i ofyn i Lywodraeth Cymru am ddiweddariad ar eu hadolygiad Mesur Teithio Dysgwyr, polisi allai ei gwneud hi’n ofyniad statudol i gynghorau ariannu trafnidiaeth ôl-16.
Mae’r Cynghorydd Phil Wynn yn mynnu bod ganddo ymrwymiad personol i ddatrys materion gododd wrth graffu, gyda disgwyl i adroddiad gael ei gyflwyno yn y cyfarfod hwnnw ym mis Ebrill.
Fe wnaeth y Cynghorydd Annibynnol David A Bithell, sy’n cynrychioli Pant a Johnstown, gefnogi’r gwelliant, gan ychwanegu, “Dw i’n eithaf cyfforddus gyda’r argymhelliad yn y gwelliant i aros am arweiniad gan Lywodraeth Cymru ar Fesur Teithio Dysgwyr Cymru maen nhw wrthi’n ei gwblhau.”
“Dw i hefyd yn cefnogi’r gwelliant i gadeirydd y Pwyllgor Dysgu Gydol Oes baratoi adroddiad i’r Bwrdd Gweithredol ar yr argymhellion eraill gafodd eu crybwyll yn eu cyfarfod.”
Gwelliannau hwyr
Ond fe wnaeth y gwelliannau hwyr synnu cynghorwyr y gwrthbleidiau, ac fe gawson nhw eu gadael yn teimlo bod y Bwrdd Gweithredol yn gwthio’r mater o’r neilltu.
“Mae yna rywfaint o syndod fod rhywun yn dewis cyflwyno gwelliant i’w hargymhellion eu hunain, ac mae hynny’n ei gwneud hi braidd yn anodd deall beth yn union mae’r gwelliant yn ei olygu,” meddai Marc Jones, Cynghorydd Plaid dros Grosvenor.
“Dw i’n meddwl bod y gwelliant yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb.
“Roedd y pwyllgor craffu eisiau i hyn ddod gerbron y Bwrdd Gweithredol, ac mae’n ymddangos i mi fod y Bwrdd Gweithredol yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb yn ôl i’r [pwyllgor] craffu.
“Roedd y prif aelod yn dweud y pethau cywir wrth dderbyn cyfrifoldeb am wella mynediad i’r ysgolion hynny.
“Yr amserlen ydi’r allwedd i hyn.
“Gorau po gyntaf fod yr ysgolion yn gwybod fod yna fynediad at drafnidiaeth, oherwydd mae disgyblion yn penderfynu ar eu dyfodol ôl-16 yn eithaf buan yn y flwyddyn academaidd ac mae trafnidiaeth ysgol yn rhan o’r ystyriaethau hynny.”
Cyfeiriodd y Cynghorydd Marc Jones at y drafnidiaeth rhad ac am ddim sy’n cael ei darparu gan Goleg Cambria i’r holl ddysgwyr sy’n mynychu eu campysau.
Ychwanegodd fod nifer y disgyblion fydd yn ymuno ag Ysgol Morgan Llwyd y flwyddyn nesaf ddwywaith nifer y Flwyddyn 11 bresennol, a bod “hynny’n fater na fydd yn mynd i ffwrdd”.
“Rhaid mai’r datrysiad tymor hir ydi y gall ysgolion flaengynllunio yn nhermau trafnidiaeth chweched dosbarth,” meddai.
Galwodd y Cynghorydd Phil Wynn am amynedd hyd nes bod y mater yn dychwelyd i’r pwyllgor craffu ym mis Ebrill, gan ychwanegu mai dim ond pedwar disgybl chweched dosbarth sy’n teithio i Ysgol Maelor ac Ysgol Morgan Llwyd sy’n cael mynediad at gynnig gostyngiad y Cyngor.
Wrth ei gefnogi, ychwanegodd y Cynghorydd David A Bithell y byddai cost sylweddol i’r Cyngor wrth gyflwyno trafnidiaeth ôl-16.
“Os daw Llywodraeth Cymru yn ôl at y Cyngor hwn a dweud bod rhaid i chi gyflwyno trafnidiaeth ôl-16, yna mae’n rywbeth y bydd yn rhaid i’r Bwrdd Gweithredol hwn a’r Cyngor ei ystyried.”
Cytunodd y Bwrdd Gweithredol ar y gwelliannau diwygiedig y Cynghorydd Phil Wynn y dylid aros am ganlyniad adolygiad Mesur Teithio Dysgwyr Llywodraeth Cymru, ac am adroddiad y pwyllgor craffu Dysgu Gydol Oes sydd i ddod ym mis Ebrill.