Bydd cylch misol tair diffoddwraig tân yn cael eu tracio yn ystod taith i’r Antarctig.

Fis Tachwedd, bydd y cyn-chwaraewr rygbi Rebecca Openshaw-Rowe, yr athletwraig triathlon Georgina Gilbert, a Becky Hinchley yn sgïo 700 milltir ar hyd y cyfandir ym Mhegwn y De.

Mae’r tair yn awyddus i wneud y daith er mwyn ysbrydoli menywod eraill ac er mwyn gwella gwelededd diffoddwyr tân benywaidd.

Fe fydd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd yn edrych ar batrymau misol y menywod, gan weld sut effaith mae tywydd oer yn ei chael ar y mislif.

Mae Georgina Gilbert, sy’n 49 oed, yn mynd drwy’r perimenopos ar hyn o bryd, a byddan nhw’n cofnodi’r effaith ar ei symptomau hi yn ystod y daith fydd yn para tua 40 diwrnod.

“Daeth y syniad gan grŵp o fenywod eraill oedd wedi bod yn yr Antartig yn 2014, tîm o’r fyddin,” meddai Rebecca Openshaw-Rowe, sy’n gweithio â Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, wrth golwg360.

“Roedd un ohonyn nhw’n siarad mewn digwyddiad oedden ni ynddo am fenywod yn y gwasanaeth tân, a chafodd Georgina ei hysbrydoli gan hyn.

“Rydyn ni’n gwneud e i drio sicrhau bod menywod sy’n ddiffoddwyr tân yn fwy gweladwy ymysg y cyhoedd, achos does yna ddim lot o fenywod yn ddiffoddwyr tân dros y wlad.

“Hefyd rydyn ni eisiau ysbrydoli menywod a’u hannog nhw i fod ddigon dewr i ddilyn eu breuddwydion eu hunain a gwthio ffiniau, a phrofi na ddylai rhywedd fod yn rhywbeth sy’n eich dal chi’n ôl.

“Does yna ddim llawer o ymchwil wedi cael ei wneud ar fenywod mewn amgylchiadau eithafol, yn enwedig yr Antartica. Mae’r rhan fwyaf o’r ymchwil yn edrych ar ddynion.”

Bydd y merched yn sgïo o arfordir Antarctica i Begwn y De, heb eu tywys, gan ddechrau tua Thachwedd 10 eleni.

“Fyddan ni’n cael ein gadael a ffwrdd â ni, ac yn cario’n holl offer, bwyd a phopeth fyddan ni angen i oroesi tu ôl i ni ar slediau,” meddai wedyn, gan ychwanegu nad ydy’r un ohonyn nhw wedi gwneud dim byd tebyg o’r blaen.

“Rydyn ni wedi gorfod gwneud lot o waith dysgu, hyfforddi ac ymchwilio.

“Rydyn ni wedi treulio dipyn o amser yn Sweden a Norwy yn gwneud teithiau bach, dysgu sut i oroesi yn yr oerfel, dysgu sgïo. Doedd Georgina na finnau erioed wedi gwneud sgïo traws gwlad o’r blaen.”

‘Ychydig iawn o ymchwil’

Ychwanega Naveen Gunasegaran, Cynorthwyydd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n rhan o’r tîm sy’n gyrru’r menywod i’r Antartica, fod yr ymchwil yn torri tir newydd.

“Mae’r brifysgol eisiau dadansoddi a chasglu data gan y menywod o ran eu cylch misol, a sut y byddai yn Antartica,” meddai wrth golwg360.

“Ychydig iawn o ymchwil sydd wedi bod ar y pwnc, am fenywod yng nghamau cyn-fenopos a perimenopos eu bywydau.

“Mae’r papurau ymchwil sydd yn bodoli’n bennaf ynghylch athletwyr benywaidd ifanc, neu sydd yn eu harddegau, ac yn gwneud ymarfer corff trwm fel codi pwysau, pêl-droed ac ati. Ond ychydig iawn sydd wedi’i wneud ar fenywod sydd yn hŷn.

“Yn amlwg, mae’r Antartica dipyn oerach nag ydy hi’n fan hyn felly rydyn ni eisiau darganfod a ydy bod mewn lle dipyn oerach yn cael effaith ar gylch misol rhywun – pa mor hir fydd yr ofyliad er enghraifft.”