Mae Mark Drakeford wedi dweud nad yw’n bwriadu sefyll yn etholiadau nesa’r Senedd yn 2026.
Fe ddaeth y sylw ar Faes yr Eisteddfod heddiw (dydd Mercher, Awst 9) yn ystod sesiwn Criced, Caws a’r Clarinet gyda’r Llywydd Elin Jones.
“Dydw i ddim yn mynd i fod yn Aelod o’r Senedd ar ôl 2026, ond dydw i ddim yn mynd i sefyll mas o’r ddadl ar feddwl am ddyfodol Cymru a phopeth sy’n mynd o gwmpas y Senedd o gwbl,” meddai.
Er gwaetha’r cyhoeddiad, aeth yn ei flaen i ddweud nad yw’n bwriadu camu’n ôl o’r byd gwleidyddol yn gyfan gwbl.
“Mae yna lot o bethau rydych chi’n gallu gwneud tu fa’s a does dim rhaid i chi fod yna i fod yn rhan, nac i gael diddordeb yn y dyfodol,” meddai.
Rhagor i ddilyn.