Mae undeb athrawon NAHT Cymru yn dweud bod y cynigion i atal streiciau’n “ymosodiad ar ddatganoli”.

Wrth ymateb i ymgynghoriad sy’n dod i ben heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 30), dywed yr undeb fod cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “ddraconaidd” ac yn “ddiangen”.

Maen nhw’n dweud bod y ddeddfwriaeth yn torri ar draws y pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru, ac y byddai’n dileu hawl y rhan fwyaf o athrawon i streicio, yn enwedig prifathrawon fyddai’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i rywun i lenwi eu rolau pe baen nhw allan ar streic.

Byddai’r ddeddfwriaeth newydd yn cyfreithlonni diswyddo gweithwyr addysg sydd wedi derbyn ‘hysbysiadau gwaith’, a dirwyo undebau’n drwm.

Yn ôl NAHT, dydy’r cynigion ddim yn cydnabod y ddeddfwriaeth sydd yn ei lle yng Nghymru – gan gynnwys deddfau’n ymwneud â llesiant, undebau llafur, a phartneriaethau cymdeithasol a chaffael cyhoeddus – sy’n cryfhau hawliau gweithwyr a chyflogwyr ac yn hybu cydweithio er mwyn datrys anghydfodau.

Yn ôl yr undeb, byddai gorfodi staff i fynd i’r gwaith ar ddiwrnod streiciau’n golygu y byddai’n rhaid i ddisgyblion fynd i’r ysgol hefyd, ac y byddai’n rhaid cadw safleoedd ar agor.

“Tanseilio egwyddorion”

Yn ôl Laura Doel, Ysgrifennydd Cenedlaethol NAHT Cymru, mae’r cynigion yn “anelu i danseilio egwyddorion partneriaeth gymdeithasol”, ac maen nhw’n “ymosodiad uniongyrchol ar y setliad datganoli”.

“Does gan yr Adran Addysg ddim syniad ynghylch y systemau sydd yn eu lle sy’n rheoli ac yn cynnal a chadw ysgolion Cymru, a does gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddim hawl i ymyrryd mewn materion nad ydyn nhw’n ymwneud â nhw,” meddai.

“Mae arweinwyr ysgolion ledled Cymru’n wynebu heriau sylweddol, yn enwedig pan ddaw i dâl, llwyth gwaith ac ariannu, ac rydyn ni’n cydweithio â Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd i fynd i’r afael â’r materion hynny.

“Wedi dweud hynny, fyddwn ni ddim yn oedi cyn cymryd camau gweithredu diwydiannol pellach pe bai dyna ewyllys ein haelodau, a byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i warchod yr hawliau hynny.”

“Dim effaith” ar ddisgyblion yn ystod streiciau

Yn ôl NAHT Cymru, does dim tystiolaeth i awgrymu bod streiciau’n cael effaith negyddol ar ddisgyblion.

Ond maen nhw’n dweud bod tanariannu difrifol a thoriadau’n cael effaith bellgyrhaeddol arnyn nhw.

Dywed yr undeb na fydd cyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol yn datrys yr holl heriau, ond y byddai’n cael effaith ar allu gweithwyr i wneud rhywbeth ynghylch y sefyllfa.

Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at yr angen am warchodaeth drwy streiciau pe bai gweithluoedd yn mynd yn anniogel.

Does dim darpariaeth ar gyfer “ymgynghoriad ystyrlon” ag undebau, meddai NAHT Cymru, a dim rheidrwydd i gynghori ag unigolion mae disgwyl iddyn nhw weithio yn ystod streiciau, a does dim sôn o gwbl am y llywodraethau datganoledig.

Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru, wedi ysgrifennu at yr Adran Addysg yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gydweithio â chyflogwyr ac undebau i ddatrys anghydfodau.

‘Ymosodiad gelyniaethus’

Yn ôl Paul Whiteman, ysgrifennydd cyffredinol NAHT, mae’r cynigion yn “ymosodiad gelyniaethus ar hawl ddemocrataidd sylfaenol gweithwyr i dynnu eu llafur yn ôl”.

“Bydd gweithredu drwy streiciau bob amser yn ateb terfynol gan bobol broffesiynol ymroddedig mewn addysg,” meddai.

“Yn drist iawn, fodd bynnag, dyma’r unig ffordd o ymrwymo llywodraethau a chyflogwyr â chlustiau tun mewn trafodaethau difrifol am faterion nad ydyn nhw ond yn effeithio ar eu hamodau gwaith, eu diogelwch a’u bywoliaeth, ond hefyd eu gallu i gynnig yr addysg mae pob plentyn yn ei haeddu.

“Fydd y cynigion hyn ddim yn helpu i atal anghydfodau diwydiannol, ond byddan nhw’n ei gwneud hi’n fwy anodd eto i’w datrys nhw, ac i staff ysgol ymroddedig weithredu pan fyddan nhw’n ofni bod addysg yn cael ei thanbrisio.

“Pe bai hynny’n digwydd, y plant fyddai’n dioddef yn y pen draw.”