Gallai penderfyniad cyllido gan Lywodraeth Cymru danseilio gwaith i wella presenoldeb disgyblion, yn ôl undeb arweinwyr ysgolion.

Mae undeb NAHT Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i ailfeddwl eu penderfyniad i ddod â’r cyllid ar gyfer Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru i ben.

Mae’r rhaglen, sy’n cael ei hariannu’n gyfatebol gan Lywodraeth Cymru a’r pedwar heddlu yng Nghymru, yn gweld swyddogion heddlu’n cyflwyno gwersi mewn ysgolion yn ymwneud â phopeth o ddiogelwch ac ymddygiad i gamddefnyddio sylweddau.

Dywed NAHT Cymru fod y gwersi wedi helpu i gefnogi presenoldeb disgyblion mewn ysgolion, sydd wedi dioddef yn sgil y pandemig.

Mae’r swyddogion heddlu hefyd wedi cefnogi datblygiad y cwricwlwm iechyd a lles, ac maen nhw’n helpu ysgolion i fynd i’r afael â digwyddiadau ar y safle.

Fodd bynnag, ar ôl dysgu y bydd Llywodraeth Cymru yn torri ei chyllid o £1.98m – ddaeth o’r gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol – o fis Ebrill, mae NAHT Cymru wedi mynegi pryderon.

Heddlu yn chwarae ‘rhan hanfodol’ mewn gwella presenoldeb

Mae Laura Doel, Ysgrifennydd Gwladol NAHT Cymru, wedi ysgrifennu at Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles, a Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg, i fynegi pryderon yr undeb.

Daw galwad yr undeb yn dilyn cynhadledd i’r wasg gan Lywodraeth Cymru fore heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 30), pan ddywedodd Jeremy Miles fod cydweithio a mynd i’r afael â materion yn ymwneud â phresenoldeb yn flaenoriaeth genedlaethol i’r llywodraeth.

“Mae’n anghredadwy bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud taclo presenoldeb yn flaenoriaeth genedlaethol wrth dynnu arian o raglen sy’n gwneud gwahaniaeth,” meddai Laura Doel.

“Os yw’n flaenoriaeth i’r weinyddiaeth hon yna mae angen i bob adran o’r llywodraeth fod yn tynnu i’r un cyfeiriad.

“Mae swyddogion cyswllt yr heddlu yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu ysgolion i fynd i’r afael ag absenoldeb disgyblion.

“Maent hefyd wedi bod yn adnodd gwerthfawr wrth gefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru, hyrwyddo lles cadarnhaol ac iechyd meddwl, a chwalu’r rhwystrau rhwng yr heddlu a chymunedau.

“Os nad yw Llywodraeth Cymru yn ailystyried y penderfyniad hwn – neu’n dod o hyd i ffordd o weithio gyda’r heddlu er mwyn i’r rhaglen barhau ar yr un raddfa – bydd angen iddi gynnal trafodaethau gydag ysgolion am effaith y penderfyniad hwn, gan gynnwys ar ei flaenoriaeth genedlaethol o wella presenoldeb mewn ysgolion.”

Mae Laura Doel hefyd wedi ysgrifennu at y pedwar comisiynydd heddlu a’r Prif Gwnstabl yn addo cefnogaeth NAHT Cymru i barhad y gwasanaeth.

‘Penderfyniadau anodd iawn’

“Mae’r NHS a gwasanaethau yng Nghymru yn wynebu’r pwysau ariannol anoddaf yn hanes diweddar,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Bu’n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn am ymrwymiadau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar ddiogelu gwasanaethau rheng flaen.

“Er gwaethaf y gyllideb heriol, rydym wedi parhau i ddiogelu ein cyllid camddefnydd sylweddau rheng flaen o £67m.

“Mae hynny’n cynnwys mwy o ddyraniadau wedi’u clustnodi ar gyfer plant a phobl ifanc i £6.25m.

“O ganlyniad, rydym wedi penderfynu dod â chyfraniad Llywodraeth Cymru i Raglen Ysgolion Heddlu Cymru i ben.

“Mae’r dirwedd o amgylch lles dysgwyr ar ystod o faterion pwysig wedi newid yn sylweddol ers cyflwyno’r rhaglen; yn enwedig gyda chyflwyniad y cwricwlwm newydd.

“Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaethon ni gynnig cwrdd â’r NAHT i drafod hyn ymhellach ac rydyn ni’n parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws heddluoedd ar effaith y newidiadau ariannol.”