Mae cynlluniau i newid trefn etholiadau’r Senedd yn cael eu trafod yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 30).

Ymysg cynlluniau ym Mesur Diwygio’r Senedd mae cynnig i gyflwyno system bleidleisio rhestrau caëedig – cynllun sydd wedi denu rhywfaint o wrthwynebiad.

O dan y system bleidleisio bresennol, mae gan etholwyr y gallu i ddewis ymgeiswyr yn ôl blaenoriaeth.

Ond wrth gyflwyno system rhestr gaëedig, byddai’n rhaid i etholwyr bleidleisio dros blaid yn hytrach nag ymgeisydd unigol.

Y bwriad yw cynyddu maint y Senedd o’r 60 aelod presennol i 96, gyda chwotâu rhyw yn cael eu cyflwyno er mwyn sicrhau bod yr un nifer o ddynion a menywod yn y siambr.

Fe wnaeth Llafur Cymru addo diwygio’r system fel rhan o’u maniffesto ar gyfer yr etholiad diwethaf yn 2021, ac mae’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Bydd Aelodau’r Senedd yn pleidleisio ar ei egwyddorion sylfaenol heddiw, a bydd angen mwyafrif o ddau draean er mwyn iddo fynd yn ei flaen i’r cam nesaf.

‘Dim dadl gredadwy’

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ymysg y rhai sy’n gwrthwynebu’r system rhestr gaëedig, ac maen nhw am weld system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) yn dod i rym, sy’n gofyn i bleidleiswyr ddewis ymgeiswyr yn y drefn yr hoffen nhw.

“Rydyn ni’n gwbl ymrwymedig i egwyddorion cyffredinol Bil Diwygio’r Senedd,” meddai Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

“Mae diwygio’r Senedd a chynyddu’i haelodaeth yn hanfodol os ydyn ni am fod yn ddeddfwrfa effeithiol sy’n gallu craffu fel y byddai pobol yn disgwyl i ni ei wneud.

“Mae’r Bil yn cynrychioli cyfle prin am siawns i adnewyddu ac adfywio ein democratiaeth.

“Fodd bynnag, rydyn ni mewn peryg gwirionedd o fethu’r nod hwnnw, yn sgil cynigion, sydd wedi derbyn cyn beirniadaeth, am restrau caeedig gan Lywodraeth Llafur Cymru a’u partneriaid ym Mhlaid Cymru.

“Dw i dal heb glywed un ddadl gredadwy ynglŷn â sut mae’r system rhestrau caeedig yn cwrdd ag egwyddorion democrataidd.

“Ond dw i wedi clywed digon o arbenigwyr, fel yr Athro Laura McAllister, sy’n ei wrthwynebu gan ddweud ei fod yn lleihau dewis pleidleiswyr.

“Mae Llafur a Phlaid Cymru’n dadlau bod eu diwygiadau’n cynrychioli cam blaengar oddi wrth y status quo.

“Ond mae hi’n anodd osgoi’r teimlo bod Llafur a Phlaid Cymru yn blaenoriaethu rheolaeth plaid dros ddewis pleidleiswyr, gan roi gwleidyddiaeth cyn pragmatiaeth.”

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn gwrthwynebu’r cynlluniau ers y cychwyn, gyda Tom Giffard, un Aelod o’r Senedd y blaid, yn dweud wrth golwg360 y dylid cynnal refferendwm ar y mater.

‘Senedd fodern’

Yn ôl Llywodraeth Cymru, nod Bil Diwygio’r Senedd yw “creu Senedd fodern, sy’n gallu cynrychioli pobol Cymru yn well, gyda mwy o gapasiti i graffu, deddfu, a dwyn y llywodraeth i gyfrif.”

Ac er gwaethaf y gwrthwynebiad i’r system, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud na fyddai’n bosib diwygio’r Senedd heb newid y system bleidleisio.

Dan y cynlluniau, byddai etholaethau yn etholiad y Senedd yn 2026 yr un fath â’r 32 etholaeth fydd gan Gymru yn Senedd y Deyrnas Unedig.

Y bwriad yw cyplysu’r etholaethau hyn er mwyn creu 16 o etholaethau i Senedd Cymru, gyda phob etholaeth wedyn yn ethol chwe Aelod.

Bydd rhaid i ymgeiswyr ac Aelodau o’r Senedd fyw yng Nghymru, a bydd etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd yn hytrach na phob pum mlynedd.

Fe fydd Aelodau’r Senedd yn trafod y mater ac yn pleidleisio yn ddiweddarach heddiw.

System bleidleisio’r Senedd yn denu dirmyg

Catrin Lewis

“Mae rhestrau caeedig yn rhoi mwy o bŵer yn nwylo penaethiaid y pleidiau, gan roi gwobrau am deyrngarwch a hirhoedledd, yn hytrach na chalibr”
Arwydd Senedd Cymru

“Rhaid wrth Senedd gryfach,” medd Plaid Cymru cyn pleidlais ar ddiwygiadau

Bydd Aelodau’n pleidleisio ar gynnig i gynyddu nifer yr Aelodau ym Mae Caerdydd i 96

‘Angen ystyried y gost o beidio cynyddu maint y Senedd yn lle’r gost o wneud newidiadau’

Cadi Dafydd

Dydy’r wlad ddim yn cael ei rhedeg cystal ag y dylai gyda 60 aelod, meddai Jess Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru