Mae perchnogion bwyty ar Ynys Môn wedi penderfynu cau ei ddrysau, flwyddyn yn unig ar ôl agor, yn sgil costau cynyddol a’r argyfwng costau byw.

Mewn datganiad ar eu gwefan, fe gyhoeddodd Y Parlwr yn Rhosneigr eu bod nhw’n cau ddydd Sadwrn (Ionawr 27).

Fe agorodd y bwyty y llynedd, ac roedden nhw wedi ennill dwy wobr rosette yr AA fisoedd ar ôl agor.

Mae’r perchnogion yn rhoi’r bai ar “gostau cynyddol a’r pwysau ar gyllidebau cwsmeriaid”, ac oherwydd hynny maen nhw’n dweud eu bod nhw’n methu aros ar agor.

Roedd Y Parlwr yn fwyty bach oedd yn cynnig bwydlen yn costio £135 y pen, o dan oruchwyliaeth y prif gogydd Hefin Roberts a Ffion Maple.

Roedd y busnes yn rhan o westy a bwyty Sandy Mount House yn Rhosneigr.

‘Heriau ariannol parhaus’

“Mae Y Parlwr wedi cynhyrchu bwyd, gwin, a gwasanaeth gwych ers agor y llynedd… Fodd bynnag, yn wyneb costau a phwysau cynyddol ar gyllidebau ein cwsmeriaid, ni allwn wneud iddo weithio’n ariannol,” meddai’r perchnogion mewn datganiad.

Ychwanegon nhw nad oedd yn benderfyniad hawdd, a’u bod nhw wedi edrych ar opsiynau eraill i gynnal y bwyty, ond yn ofer.

“Mae’r dewis i gau yn deillio o heriau ariannol parhaus sy’n cael eu gwaethygu gan gostau ynni cynyddol, yr argyfwng costau byw parhaus, a chynnydd mewn prisiau mewn meysydd eraill o’r busnes; beichiau yr ydym ni, fel chi, wedi’u hysgwyddo, ond daw pwynt lle na allwn wneud hynny mwyach.”

Busnesau’n cau

Mae Y Parlwr yn un o nifer o fusnesau sydd wedi penderfynu cau dros yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys tafarn The Conway a’r bwytai Kindle a The Brass Beetle yng Nghaerdydd.

Mae Plaid Cymru’n dweud bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod gwneud tro pedol i leihau’r cymorth ariannol i fusnesau gyda threthi busnes yn ergyd i’r diwydiant lletygarwch.

Mae’n dilyn y penderfyniad i leihau’r gostyngiad sydd ar gael i drethi busnesau o 75% i 40%.

Roedd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, wedi gwneud y cyhoeddiad yn y Gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr.

Dywed Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, y dylai’r Llywodraeth ailystyried y penderfyniad a chynnig achubiaeth unfed awr ar ddeg i fusnesau.

‘Tafarn wedi cau bob wythnos y llynedd’

Yn y Senedd fory (dydd Mercher, Ionawr 31), bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno cynnig i dynnu sylw at gyflwr busnesau sy’n ei chael hi’n anodd yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch yn sgil y pandemig a phwysau costau byw.

Maen nhw’n galw ar y Llywodraeth i adfer y rhyddhad ardrethi busnes o 75% i’r busnesau hynny.

“Collodd Cymru fwy nag un tafarn bob wythnos y llynedd, ac eto mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi torri rhyddhad ardrethi busnes i’r sector lletygarwch pan oedd gan Gymru eisoes y cyfraddau uchaf ym Mhrydain,” meddai Peter Fox, llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig, cyn y ddadl.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gweithredu, oherwydd rydym am weld rhyddhad ardrethi busnes yn cael ei adfer i 75%.”