Mae dyn 52 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar yr M4, ac mae dyn arall wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Arhosodd rhan o’r draffordd ar gau yn ystod y brif awr frys fore heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 30) wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Dywed Heddlu Gwent eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau o wrthdrawiad ger Casnewydd tua 9 o’r gloch nos Lun (Ionawr 29).
Cafodd swyddogion eu hanfon i’r safle, ac maen nhw’n dweud bod tri char – BMW X4, Vauxhall Agila a Volkswagen Polo – wedi bod yn rhan o’r digwyddiad ar y ffordd tua’r dwyrain rhwng cyffordd 28 a 29.
Roedd gyrrwr y Vauxhall – dyn 52 oed o Gasnewydd – wedi marw yn y fan a’r lle, ac mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae dyn 34 oed o Gaerdydd wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa wrth i ymholiadau barhau.
Mae swyddogion bellach wedi ailagor yr M4 rhwng cyffyrdd 29 a 28.