Mae gan y berthynas rhwng Llafur Cymru a’r undebau llafur “oblygiadau difrifol”, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Daw eu sylwadau wedi i Jeremy Miles, un o’r ddau ymgeisydd yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur ac i ddod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, feirniadu undeb fwyaf Cymru am y ffordd maen nhw wedi penderfynu pwy i’w gefnogi.
Fe wnaeth Uno’r Undeb gynnal hystingau rhwng Jeremy Miles a Vaughan Gething, cyn cyhoeddi eu bod nhw’n cefnogi Vaughan Gething.
Daeth i’r amlwg wedyn fod Jeremy Miles yn “anghymwys” am gefnogaeth yr undeb yn sgil rheol newydd.
Yn ôl y rheol gan Uno’r Undeb, dydyn nhw ddim ond yn “cefnogi ymgeisydd sydd wedi bod mewn swydd leyg etholedig fel cynrychiolydd gweithwyr”.
Yn sgil hynny, dydy Jeremy Miles ddim yn gymwys am eu cefnogaeth, a dywed nad oedd yn ymwybodol o’r rheol pan gymerodd e ran yn yr hystingau, ac nad yw wedi gweld tystiolaeth yn dangos bod y rheol “hyd yn oed yn bodoli ar gyfer y pwrpasau honedig”.
Mae Uno’r Undeb wedi amddiffyn eu proses.
‘Goblygiadau difrifol’
“Mae gan y berthynas aneglur rhwng Llafur a’r undebau oblygiadau difrifol i bawb yng Nghymru,” meddai Joel James, llefarydd Partneriaethau Cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig.
“Bydd y broses hon, yn y pendraw, yn penderfynu pwy fydd Prif Weinidog nesaf Cymru, a bydd honiadau am stitch-up yn codi cwestiynau am ddylanwad yr undebau hyn ar ein democratiaeth.
“Rhaid i dâl-festri undebau Llafur beidio cael dewis ein Prif Weinidogion nesaf drwy broses amheus.”
Mae Jeremy Miles a Vaughan Gething yn cystadlu am bleidleisau aelodau Llafur Cymru, ynghyd ag aelodau mudiadau cysylltiedig fel Uno’r Undeb.