Bydd dwsinau o weithwyr dur yn teithio i San Steffan heddiw (dydd Mercher, Ionawr 31) wrth i wleidyddion baratoi i holi penaethiaid Tata am eu penderfyniad i gau dwy ffwrnais chwyth yng ngwaith dur Port Talbot, gan roi miloedd o swyddi yn y fantol.
Bydd y gweithwyr yn mynd draw i wrando wrth i Thachat Viswanath Narendran, Prif Swyddog Gweithredol Byd-eang Tata Steel, a Rajesh Nair, Prif Swyddog Gweithredol y Deyrnas Unedig, gael eu holi gan aelodau’r Pwyllgor Materion Cymreig.
Mae swyddi hyd at 2,800 o weithwyr dur yn y fantol ar ôl i Tata gyhoeddi eu bod yn cau’r ddwy ffwrnais chwyth yng ngwaith dur mwyaf y Deyrnas Unedig.
Roedd undebau wedi cynnig cynllun amgen, oedd yn golygu cadw un ffwrnais chwyth ar agor tan 2032, ac yn ôl y cwmni roedden nhw wedi ystyried hyn am gyfnod.
Bydd GMB ac undebau eraill hefyd yn rhoi tystiolaeth heddiw.
‘Gwarth cenedlaethol’
“Mae gan y gweithwyr dur bopeth ar y lein – eu swyddi, diogelwch eu teuluoedd, dyfodol cyfan eu tref,” meddai Charlotte Brumpton-Childs, Swyddog Cenedlaethol GMB.
“Mae angen iddyn nhw glywed penaethiaid Tata yn ceisio cyfiawnhau pam eu bod yn gwneud miloedd o bobol yn ddi-waith.
“Mae’r Deyrnas Unedig wedi mynd o fod yn allforiwr dur enfawr 15 mlynedd yn ôl, i fewnforio gwerth £2bn bob blwyddyn nawr.
“Yn fuan ni fyddwn hyd yn oed yn gallu gwneud dur sylfaenol yn y wlad hon.
“Mae’n warth cenedlaethol.”