Mae cwmni dur Tata wedi cadarnhau eu bod nhw’n cau eu safle ym Mhort Talbot, wrth i 2,800 o swyddi gael eu colli yn y Deyrnas Unedig, ac fe fu ymateb chwyrn i’r penderfyniad hwnnw yng Nghymru.
Bydd dwy ffwrnais chwyth yn cael eu cau yn y safle, gyda’r bwriad o leihau llygredd.
Ond o ganlyniad, mae’n rhaid hefyd cael gwared ar weithwyr.
Yn ôl y cwmni, roedden nhw wedi ystyried cadw un o’r ffwrneisi am gyfnod.
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud ei fod yn “ddiwrnod anhygoel o anodd i Gymru”.
“Mae fy meddyliau gyda’r gweithwyr dur a’r isgontractwyr hynny a fydd yn colli eu swyddi yn y misoedd nesaf, a’u teuluoedd,” meddai.
“Rhaid i bawb sy’n gwneud penderfyniadau ymdrin â’r sefyllfa hon yn ofalus – rwy’n hyderus y bydd y bwrdd pontio yn cyflawni hyn.”
Ychwanega nad yw’n credu nad oedd yn bosib cadw un o’r ffwrneisi yn agored yn ystod y cyfnod pontio.
Mewn datganiad ar y cyd, dywed Altaf Hussain a Tom Giffard, yr Aelodau Ceidwadol o’r Senedd, fod y newyddion yn ddinistriol i’r gymuned.
“Rydym yn croesawu cyflwyno cronfa bontio gwerth £100m wedi’i hariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i helpu gweithwyr a’r gymuned ehangach i ddod yn ôl o’r cyhoeddiad heddiw,” meddai’r ddau.
“Byddwn yn gweithio i sicrhau bod y gronfa yn cefnogi’r gweithwyr hynny a’r gymuned dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”
‘Newyddion trychinebus’
Yr un yw pryderon Paul Davies, y Ceidwadwr sy’n gadeirydd Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd.
“Mae cyhoeddiad Tata Steel yn newyddion trychinebus i gymuned Port Talbot a phawb yng Nghymru sy’n dibynnu ar y diwydiant, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio yn safleoedd eilaidd Tata yn Llanwern a Throstre,” meddai.
“Mae’r gweithwyr, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach yn ein meddyliau yn y Senedd.”
Ychwanega fod y Pwyllgor yn bwriadu cynnal sesiwn frys er mwyn mynd at wraidd cwestiynau heb eu hateb ac i ddeall pa gymorth fydd ar gael.
“Y llynedd, siaradodd y Pwyllgor ag undebau am y posibilrwydd o golli swyddi ym maes dur yng Nghymru a chlywsom am yr effaith ofnadwy y byddai’n ei chael ar weithwyr y ffatri, eu teuluoedd a’u cymuned, yn ogystal â’r canlyniadau i’r gadwyn gyflenwi ehangach,” meddai.
“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gael atebion i’r rhai sydd wedi’u heffeithio.”
Dywed Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg sy’n cynrychioli Llafur yng Nghastell-nedd, fod y cyhoeddiad yn “rhwygo” cymuned leol ac economi Cymru.
“Rwy’n teimlo’n wirioneddol dros y teuluoedd y mae’r newyddion hyn yn effeithio arnyn nhw, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi,” meddai.
“Rwy’n sefyll gyda’r gweithlu, a’u hundebau llafur, gan eu bod yn gwrthwynebu’r penderfyniad dinistriol hwn.”
Ailhyfforddi ac ail-sgilio
Dywed Luke Fletcher, llefarydd economi Plaid Cymru, y bydd y newidiadau’n cael “effaith ddinistriol”, nid yn unig ar bobol Port Talbot a chymunedau cyfagos, ond ar economi Cymru hefyd.
“Mae Cymru yn wynebu dinistr llwyr ar y diwydiant dur,” meddai.
“Y cwestiwn allweddol nawr yw a yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hapus i golli’r gallu i gynhyrchu dur newydd a dod yr unig wlad yn y G20 sy’n methu â chynhyrchu dur o’r newydd.”
Ychwanega fod yn rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wladoli’r ffatri ym Mhort Talbot.
“Ni ddylai datgarboneiddio a thrawsnewid i economi werdd ddod ar draul gweithwyr medrus, ymroddedig iawn,” meddai.
“Mae Plaid Cymru yn credu mai ased pwysicaf Cymru yw ein pobol a’n gweithlu.”
Ychwanega fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar ailhyfforddi ac ailsgilio er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn cadw eu swyddi yn y diwydiant dur carbon-niwtral.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd gynnal archwiliad sgiliau cenedlaethol ar unwaith, i ddeall yn iawn sectorau allweddol lle mae angen ail-sgilio a hyfforddiant i gynnal galluoedd gwneud dur, a chaniatáu trawsnewidiad gwyrdd cyfiawn,” meddai.
Ymateb yr undebau
Dywed Sharon Graham, Ysgrifennydd Cyffredinol Uno’r Undeb, eu bod nhw’n “barod i ddefnyddio popeth i amddiffyn gweithwyr dur a’n diwydiant dur”.
“Mae gyda ni ymchwil manwl yn dangos sut a pham y dylai Tata ehangu cynhyrchu dur yn y Deyrnas Unedig yn unol â galw cynyddol, nid torri’r gweithlu,” meddai.
“Rydym wedi sicrhau arian gan y Llywodraeth Lafur arfaethedig allai wneud hynny.
“Mae cynllun Tata i gau’r ffwrneisi chwyth, yn syml, yn fandaliaeth ddiwydiannol ar raddfa enfawr.”
Mewn datganiad ar y cyd, dywed yr undebau GMB a Community ei bod yn “warth lwyr” fod Tata Steel a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dilyn y llwybr rhataf “yn lle’r cynllun gorau.”
“Mae’n anghredadwy y byddai unrhyw Lywodraeth yn rhoi £500m i gwmni i daflu 3,000 o weithwyr ar y domen sgrap, a rhaid i’n Llywodraeth ail-werthuso ei chynnig truenus i gefnogi buddsoddiad yn Tata Steel,” meddai’r undebau.
Ychwanega fod Tata wedi bod yn “berchennog cyfrifol” ers caffael y busnes yn 2007, a’u bod nhw’n cydnabod eu bod nhw wedi edrych ar y strategaeth hirdymor lle na fyddai eraill, o bosibl, wedi gwneud hynny.
Fodd bynnag, maen nhw’n dweud bod rhaid i Tata a Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig ailystyried eu safbwyntiau er mwyn diogelu dyfodol dur ym Mhrydain,
“Bydd yr wythnosau nesaf yn rhoi gwerthoedd Tata ar brawf.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae’r cyhoeddiad heddiw gan Tata Steel UK (TSUK) yn gadael miloedd o weithwyr a’u teuluoedd, yn Tata Steel ac ar draws y gadwyn gyflenwi ehangach, i wynebu dyfodol ansicr,” meddai Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi.
“Ar hyn o bryd mae TSUK yn cyflogi mwy na 6,500 o weithwyr yng Nghymru a 1,500 arall yng ngweddill y Deyrnas Unedig.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda TSUK a’r undebau llafur dur cydnabyddedig ers blynyddoedd lawer i ddiogelu’r swyddi hanfodol hyn a dyfodol hirdymor cynhyrchu dur yng Nghymru.
“Dur yw un o’r deunyddiau pwysicaf mewn unrhyw economi fodern ac mae Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn well eu byd ac yn fwy diogel o gadw’r gallu i gynhyrchu dur ar lefel arwyddocaol yn y wlad.
“Mae cyfraniad Cymru i’r sector dur yn y Deyrnas Unedig yn bwysig ac mae’r diwydiant yn rhan o stori ein cenedl. Mae’n cynrychioli cryfder economaidd sy’n cael dylanwad byd-eang ac mae’n fesur o ragoriaeth Cymru.
“Mae maint y gwaith ym Mhort Talbot yn dod â chymysgedd byrlymus o sgiliau ac arbenigeddau blaengar ynghyd. Mae’n bwysig bod pob lefel o lywodraeth yn deall, yn hyrwyddo ac yn parchu hynny.
“Mae’r gweithlu’n ymfalchïo yn y sgiliau, y profiad a’r grefft sydd ganddo i wireddu’r trawsnewid gwyrdd fydd yn defnyddio technolegau newydd ac yn manteisio ar y galw enfawr y bydd economi carbon isel yn esgor arno.
“Wrth i’n heconomi newid, bydd yr angen am ddur yn cynyddu, ac os na all Gweinidogion y Deyrnas Unedig a TSUK weithio gyda’i gilydd ar fyrder, bydd llai o’r dur hwnnw’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru a down yn fwyfwy dibynnol ar fewnforion.
“Wrth ddewis peidio â dilyn strategaeth ddiwydiannol fodern gyda dur yn greiddiol iddi, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi niweidio ein gallu i greu’r twf hirdymor a dibynadwy a fyddai’n troi mesurau sero net yn swyddi gwyrdd, mwy cynaliadwy yng Nghymru.
“Rydym wedi annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig dro ar ôl tro i weithredu ar y raddfa sydd ei hangen a buddsoddi i gefnogi’r symudiad at gynhyrchu dur gwyrddach ac ar i’r Cwmni arwain at bontio teg a chyfiawn i’w weithwyr a’r cwmnïau hynny yn y Deyrnas Unedig sy’n rhan o’i gadwyn gyflenwi eang.
“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn ergyd gymdeithasol ac economaidd gas fydd â goblygiadau pellgyrhaeddol a difrifol i Gymru.
“Ein barn bendant ni yw bod gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig a’i Gabinet y galluoedd a allai osgoi’r senario gwaethaf hwn a maint y golled economaidd sy’n ein hwynebu nawr.
“Rhaid i weinidogion y Deyrnas Unedig weithio’n gyflym yn yr oriau a’r dyddiau nesaf i gynnal trafodaethau i ystyried pob posibiliad i greu trawsnewidiad hirach a thecach fyddai’n cefnogi diwydiant dur ehangach a mwy sicr.
“Rwyf wedi mynegi fy mhryderon ynghylch yr angen i weithredu ar y lefel hon gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach, Kemi Badenoch AS a’r Gweinidog Gwladol, Nusrat Ghani AS.
“Mae’n destun gofid mawr nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig – ac yn enwedig yr Adran Busnes a Masnach – wedi dangos unrhyw gydnabyddiaeth o bwysigrwydd strategol y sector hyd yma.
“Yn wahanol i Ysgrifenyddion Busnes blaenorol, mae Ysgrifennydd Gwladol presennol y Deyrnas Unedig dros Fusnes a Masnach wedi gwrthod cwrdd â Gweinidogion Cymru ar adeg o ansicrwydd a pherygl enfawr i’r sector.
“Rydym o’r herwydd wedi colli cyfleoedd i gydweithredu yn gynharach a allai o bosib fod wedi golygu na fyddai cyhoeddiad heddiw wedi’i wneud.
“Ym mis Medi 2023, gwnaeth TSUK a Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi cytundeb ar y cyd o’r diwedd i fuddsoddi mewn ffwrnais bwa trydan fodern ar safle Port Talbot, gyda buddsoddiad cyfalaf o £1.25bn gan gynnwys grant gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o hyd at £500m.
“Roedd y cynigion yn cynnwys ailstrwythuro busnes TSUK ac yna buddsoddi mewn technoleg bwa trydan.
“Nid oedd Llywodraeth Cymru yn rhan o’r trafodaethau arweiniodd ar y cytundeb hwn.
“Er bod y cyhoeddiad yn cynnwys buddsoddiad sylweddol yn y tymor hwy, roedd yn anochel y byddai gweithwyr TSUK, a’u teuluoedd, yn poeni’n ofnadwy am eu swyddi a’r effeithiau cymdeithasol y byddai’n rhaid iddyn nhw a’u cymunedau eu hysgwyddo pe bai gweithwyr yn colli urddas gwaith.
“Mewn cyfarfodydd a datganiadau cyhoeddus, rwyf wedi rhybuddio Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig rhag seilio’u rhagdybiaethau ar y senario gwaethaf gan y byddai hynny’n tanseilio trafodaethau sy’n gofyn am le, amser ac arbenigedd.
“Ni fu clust i wrando arnom, ac rwy’n pryderu’n fawr am y ffordd ddryslyd a difater ambell waith, y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi delio â’r mater hwn.
“Mae’r cyhoeddiad heddiw wedi gwireddu ofnau’r gweithlu gyda’r newyddion y gallai tua 2,500 o swyddi gael eu colli ar draws safleoedd Tata yng Nghymru, a hynny heb sôn am yr effaith ar gadwyn gyflenwi’r Cwmni.
“Erbyn hyn mae’n amlwg nad yw’r ddadl o blaid dyfodol heb y crebachu ar y lefel a welir yn y cyhoeddiad heddiw wedi’i harchwilio’n llawn.
“Roedd argymhelliad allweddol, sef cynnal un ffwrnais chwyth am gyfnod sylweddol hirach, yn un oedd yn argyhoeddi ar sail economaidd ac o ran pontio teg a chyfiawn i TSUK.
“Dangosodd y cynnig hwn y gallai’r Cwmni fod wedi cadw cyfran sylweddol o’i weithlu a bod yn fasnachol hyfyw yr un pryd.
“Rhaid i TSUK a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ystyried yr holl opsiynau sy’n bodoli i wneud y gorau o’r swyddi y gall safle Port Talbot eu cynnal drwy gynllun cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
“Nid ydym eto wedi clywed dadleuon sy’n argyhoeddi gan Weinidogion y Deyrnas Unedig na’r cwmni pam nad yw’r opsiynau amgen hyn yn ymarferol.
“Mae’n hanfodol bod TSUK yn cynnal trafodaethau ystyrlon â’i weithwyr a’r undebau llafur am y trywydd pontio maen nhw wedi’i ddewis.
“Fel y dywedodd Tata Steel, mae unrhyw gytundeb yn dibynnu ar gynnal prosesau rheoleiddiol, gwybodaeth ac ymgynghori, ac ar y telerau ac amodau manwl terfynol.
“Rydym yn pwyso ar y cwmni i beidio â gwneud unrhyw benderfyniadau di-droi’n-ôl ar sail y cymorth y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’i gynnig hyd yma.
“Bydd unrhyw benderfyniad yn cael effaith ddofn ar gadwyn gyflenwi TSUK a’r rhanbarth ehangach, yn enwedig ar draws sector gweithgynhyrchu sydd â chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd sero net y bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn eu cynnig.
“Siaradais â chynrychiolwyr undebau llafur ac uwch reolwyr y Cwmni ddoe.
“Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi gofyn am gyfarfod brys gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig i drafod yr hyn y gellid ei wneud o hyd i sicrhau dyfodol mwy uchelgeisiol i’r ased sofran pwysig hwn.
“Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda’r undebau llafur a’r cwmni i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw nifer y swyddi a gollir mor fach â phosib.
“Rwy’n bwriadu gwneud Datganiad Llafar ynghylch y mater hwn ddydd Mawrth, Ionawr 23.”