Mae Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin yn galw am eglurdeb ynghylch sefyllfa gweithfeydd dur Trostre.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad gan gwmni Tata Steel fod 2,800 o swyddi am gael eu colli o’u gweithfeydd ym Mhort Talbot, a mwy na 3,000 ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’r safle yn Llanelli yn prosesu dur o Bort Talbot i wneud caniau.

Mae swyddogion y Cyngor wedi bod mewn trafodaethau â rheolwyr lleol ers rhai misoedd yn barod, ac mae’r Cynghorydd Darren Price, arweinydd y Cyngor, bellach yn galw am eglurder gan benaethiaid Tata am ddyfodol tymor hir y gwaith.

“Pryderu’n fawr” am weithfeydd Trostre

“Yn sgil y newyddion am Bort Talbot, rwy’n pryderu’n fawr am ddyfodol Gwaith Trostre, sy’n cyflogi bron i 700 o bobol yn uniongyrchol, yn ogystal â channoedd o staff contractwyr,” meddai’r Cynghorydd Darren Price.

“Mae Llanelli wedi colli miloedd o swyddi mewn diwydiannau trwm dros y blynyddoedd a byddai colli Trostre, a fu’n gyflogwr mawr ers 70 mlynedd, yn ddinistriol i’r dref a’r rhanbarth ehangach.

“Fe wnaeth Tata fuddsoddi £6m yn Nhrostre yn 2022 ac mae’r holl deunydd pecynnu o ddur i gwsmeriaid mawr, fel y caniau ar gyfer Ffa Pôb Heinz, yn 100% ailgylchadwy.

“Ni fyddai’n gwneud synnwyr o gwbl petai gwaith sydd ag allyriadau carbon isel yn cau o ganlyniad i fwriad Tata i fod yn garbon sero-net erbyn 2045.

“Mae’n rhaid i ni gael eglurdeb a sicrwydd am ddyfodol Trostre, a hynny ar frys, i leddfu’r pryder difrifol ymhlith y gweithlu a’u teuluoedd.”