Mae Llywodraeth Cymru’n wynebu beirniadaeth ar ôl i gwmni Fujitsu wedi gwneud elw o filiynau o bunnoedd drwy gytundebau yng Nghymru.

Chwaraeodd y cwmni rôl amlwg yn sgandal Swyddfa’r Post, lle cafodd cannoedd o is-bostfeistri eu carcharu neu eu cosbi’n ariannol oherwydd camgymeriadau gyda’r system gyfrifiadurol Horizon.

Daeth i’r amlwg fod dau gytundeb wedi’u rhoi i’r cwmni ym mis Awst 2022, ar ôl i ymchwiliad y Deyrnas Unedig i’r sefyllfa gael ei lansio yn 2021.

Mae Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, wedi cwestiynu a yw’n foesol rhoi arian cyhoeddus i’r gorfforaeth oedd yn gyfrifol am y feddalwedd.

“Ers cael eu holi gan Blaid Cymru, mae’r Llywodraeth Lafur bellach wedi cadarnhau bod Fujitsu yn parhau i dderbyn miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus trwy gytundebau a ddyfarnwyd gan Drafnidiaeth Cymru,” meddai.

“Mae’n ffuantus i’r Llywodraeth Lafur geisio ymbellhau eu hunain oddi wrth unrhyw graffu ar y contractau a ddyfarnwyd i’r gorfforaeth gan eu bod wedi eu gwasanaethu gan Drafnidiaeth Cymru, wrth gyfaddef hefyd mai’r llywodraeth sy’n gweithredu fel yr awdurdod contractio.”

Cyfeiriodd at sylwadau Mark Drakeford ei bod yn “gyfreithiol amheus” gwahardd Fujitsu rhag caffael cyhoeddus yng Nghymru, gan ddweud y bydd “angen gofyn cwestiynau brys” pe bai’r cwmni’n cael eu canfod yn euog o gamweithredu corfforaethol bwriadol.

“Amheus” gwahardd Fujitsu

Wrth ymateb i sylwadau Delyth Jewell, dywed Mark Drakeford fod y ddau gytundeb sydd yn eu lle ar hyn o bryd yn eu misoedd olaf a byddan nhw’n cael eu hadolygu pan ddaw’r cytundebau i ben.

“Rwy’n meddwl bod y pwynt mae’r Aelod yn ei wneud ar ddiwedd ei chwestiwn yn bwynt eithaf anodd, mewn gwirionedd,” meddai.

“Dw i ddim yn siŵr beth yw’r sail gyfreithiol i atal cwmni cwbl gyfreithiol rhag cystadlu am fusnes yng Nghymru ar sail methiant mewn un rhan o’u gweithrediad, er mor ddifrifol yw’r methiant hwnnw.”

Ychwanega y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gadw o fewn rheolau caffael cyhoeddus yn y dyfodol.

“Mae creu rhestr wahardd, rwy’n meddwl, yn gam cyfreithiol amheus a byddai’n rhaid ei bwyso a’i fesur yn ofalus iawn o dan amgylchiadau unrhyw achos caffael unigol,” meddai.

Fodd bynnag, daw hyn wedi i Fujitsu gyhoeddi eu bod nhw wedi penderfynu o’u gwirfodd na fyddan nhw’n ymgeisio am gytundebau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig tra eu bod nhw’n aros am ganlyniad ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal.