Mae’r cyflwynydd Mared Parry yn dweud bod cwmni B&M “wedi drysu’n lân” wrth gyfieithu arwyddion yn eu siop ym Mhorthmadog.

Ar X (Twitter), mae hi wedi postio dau lun sy’n dangos gwallau amlwg.

Yn y llun cyntaf, mae “Please call again soon” wedi’i gyfieithu i “Ffoniwch eto yn fuan”.

Yn yr ail, mae’r Gymraeg yn dweud “Naw ar agor” yn lle “nawr”.

Yn ei neges, mae Mared Parry yn cwestiynu sawl gwaith mae cyfieithiadau’n cael eu gwirio, a hynny “yn un o ardaloedd mwyaf Cymraeg Cymru”.

“Mae’r diffyg gofal a pharch at y Gymraeg yn fy ypsetio i’n lân,” meddai mewn ail neges.

“Nodwch hyn @bmstores: DYDY GOOGLE TRANSLATE DDIM YN DDIGONOL.

“Jest talwch am gyfieithydd!!!”

Dywed eraill fod y sefyllfa’n “warthus” ac yn “embaras”, gydag eraill yn beirniadu’r “diffyg ymgynghori â chyfieithydd”.

“Dyma drin y Gymraeg fel iaith eilradd,” meddai Howard Huws.

“Gallai cwmni mawr fel hwn fforddio cyfieithu proffesiynol, siawns: ac mae’r un peth yn wir am Tesco a’r lleill.

“Ddigwyddai hyn ddim yn Latfia: mae yno arolygwyr iaith – ie. plismyn iaith, os mynnwch – sy’n sicrhau bod Latfieg yn cael parch.”

Ymateb B&M

“Rydyn ni’n ymwybodol o’r gwall ar yr arwyddion, ac wedi cymryd camau i’w tynnu nhw a’u hailosod ar unwaith,” meddai llefarydd ar ran B&M.

“Rydyn ni’n ymddiheuro am unrhyw ofid y gallai hyn fod wedi’i achosi.”