Mae hanesydd ym Mhrifysgol Abertawe’n ymchwilio i hanes brechlynnau’r diciâu, fel rhan o brosiect ymchwil gofal iechyd mawr.
Nod y prosiect yw defnyddio arbenigeddau ym meysydd y dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol er mwyn rhoi llais i gleifion mewn ymchwil a gwaith gofal iechyd.
Mae’r prosiect chwe mlynedd wedi derbyn grant gwerth £2.8m gan y Wellcome Trust, a bydd Dr Michael Bresalier o Adran Hanes, Treftadaeth a’r Clasuron y brifysgol yn cydweithio ag academyddion o wledydd Prydain a’r Eidal.
Mae EPIC, sy’n edrych ar anghyfiawnder epistemig yn y byd gofal iechyd, yn bartneriaeth rhwng ymchwilwyr yn Abertawe, Bryste, Nottingham, Birmingham a phrifysgolion Ferrara a Bologna.
Byddan nhw’n ymchwilio i’r gwahaniaethau yng ngwybodaeth arbenigwyr gofal iechyd sy’n effeithio ar les a phrofiadau a chanlyniadau iechyd.
Anwybyddu cleifion
Mae rhai cleifion yn adrodd bod eu tystiolaeth yn cael ei hanwybyddu, ei diystyru neu ei chyfiawnhau i’r gwrthwyneb gan bobol broffesiynol ym maes gofal iechyd.
Mae’r rhain yn gyfystyr ag ‘anghyfiawnderau epistemig’ oherwydd, mewn rhai achosion, maen nhw’n seiliedig ar ragfarn sy’n gallu peryglu gofal cleifion a thanseilio ffydd mewn staff a systemau.
Bydd Dr Michael Bresalier, sy’n arbenigo ym maes hanes meddygaeth, yn arwain astudiaeth achos ar ddatblygu, cyflwyno a chanlyniadau rhaglenni brechu dethol ar gyfer y diciâu ar gyfer mudwyr, mewnfudwyr a lleiafrifoedd ethnig sy’n dod i fyw yng ngwledydd Prydain ers y 1960au.
Trwy gyfuniad o archifau, polisïau a hanes llafar, bydd yr astudiaeth yn edrych ar sut mae brechu dethol wedi’i fframio, ei ddeall a’i brofi gan amryw o ymarferwyr meddygol, darparwyr brechlynnau a rhieni, plant a chymunedau sy’n fudwyr ac yn fewnfudwyr, a chanlyniadau hynny.
Wrth ddatblygu persbectif hirdymor ar y ffyrdd mae ansicrwydd ac anghyfiawnder sy’n gysylltiedig â brechu dethol ar gyfer y diciâu wedi cael sylw, nod yr astudiaeth yw deall gwreiddiau a natur ehangach yr oedi cyn cael brechlyn yn well yng ngwledydd Prydain.
“Cyfeiriad newydd cyffrous” i’r ymchwil
“Rwyf wrth fy modd i fod yn un o bartneriaid y prosiect rhyngddisgyblaethol hwn,” meddai Dr Michael Bresalier.
“Mae’n mynd â’m hymchwil i gyfeiriad newydd cyffrous.
“Mae’n fy ngalluogi i archwilio sut caiff polisïau brechu eu llunio ar lefelau amrywiol, syniadau a buddiannau pwy sy’n cael eu cynnwys neu eu heithrio, sut mae gwybodaeth feddygol yn cael ei rhannu ai peidio, profiadau pobol o frechiadau, ac ym mha ffyrdd y gall anghydraddoldebau o ran gwybodaeth neu ddealltwriaeth feddygol effeithio ar gyfathrebu am adnoddau gofal iechyd a mynediad at yr adnoddau hyn.
“Mae anghyfiawnder epistemig yn fframwaith pwysig ar gyfer meithrin dealltwriaeth newydd o sut mae gwahaniaethau o ran gwybodaeth pobol am ymdrin ag iechyd neu afiechyd (gan gynnwys brechiadau), neu’r wybodaeth maen nhw’n ei chyfleu am y pwnc hwn, yn seiliedig ar resymau cymdeithasol a sut mae hyn yn dylanwadu ar benderfyniadau a chanlyniadau o ran gofal iechyd.
“Yn bwysicaf oll, yn fy marn i, mae’r fframwaith yn cynnig ffordd o fyfyrio ar natur bosib cyfiawnder mewn gofal iechyd a ffurfiau posib arno.
“Mae cydweithredu ag athronwyr, seiciatryddion, ysgolheigion cyfreithiol a gwyddonwyr cymdeithasol yn ffordd wych o ystyried sut gall safbwyntiau hanesyddol helpu i fynd i’r afael â phroblemau anghyfiawnder epistemig a gwneud gofal iechyd yn fwy teg.”