Gallai system bleidleisio arfaethedig newydd flaenoriaethu pleidiau gwleidyddol dros ddewis pleidleiswyr, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.
Mae’r Pwyllgor Biliau Diwygio’n craffu ar y cynlluniau gafodd eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r rhan fwyaf o aelodau’r pwyllgor yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil.
Ond mae’r pwyllgor cyfan yn unfrydol yn eu pryderon y gallai’r system bleidleisio rhestr gaëedig leihau’r dewis i bleidleiswyr.
Byddai’r cynigion presennol ar gyfer rhestr gaëedig yn golygu mai dim ond rhwng ymgeiswyr penodol sy’n sefyll dros blaid wleidyddol, neu rhwng pleidiau ac ymgeiswyr annibynnol, y byddai pleidleiswyr yn gallu dewis.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan nifer o arbenigwyr y byddai hyn yn lleihau’r dewis sydd ar gael i bleidleiswyr, ac y byddai risg o anfodlonrwydd ymhlith pleidleiswyr hefyd.
Er na wnaeth y Pwyllgor argymell system bleidleisio amgen, roedden nhw’n gweld bod manteision o gael rhestrau agored neu hyblyg, neu’r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV).
Mae rhestrau agored neu hyblyg yn caniatáu i bleidiau gwleidyddol flaenoriaethu eu hymgeiswyr, ond mae pleidleiswyr yn dal i allu dewis pa ymgeisydd penodol ar restr y blaid maen nhw am ei gefnogi.
Mae’r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy, fodd bynnag, yn caniatáu i bleidleiswyr restru ymgeiswyr yn y drefn maen nhw’n eu cefnogi nhw.
Mae adroddiad y pwyllgor yn annog holl Aelodau’r Senedd i gydweithio i ddod i gytundeb ar ddiwygiadau i’r system bleidleisio arfaethedig.
‘Rhai o’r newidiadau mwyaf sylweddol ers datganoli’
Yn ôl David Rees, cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio, fe fu’r pwyllgor yn craffu’n ofalus ers misoedd ar y cynigion ar gyfer “rhai o’r newidiadau mwyaf sylweddol i ddemocratiaeth Cymru ers datganoli”.
Ond maen nhw’n “unedig yn ein pryderon am yr effaith y byddai’r system bleidleisio mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig yn ei chael ar allu pleidleiswyr i ddewis pwy sy’n eu cynrychioli”, meddai.
“Mae cael y system etholiadol yn gywir yn sylfaenol i iechyd democratiaeth yng Nghymru, ac mae gennym amheuon sylweddol ynghylch a yw etholiadau rhestr gaëedig yn cynrychioli cam cadarnhaol ymlaen.
“Os bydd y Senedd yn pleidleisio o blaid y Bil yn y cyfnod cyntaf ar ddiwedd y mis, rydym yn annog pob plaid wleidyddol i gydweithio i sicrhau bod y system etholiadol yn y Bil yn rhoi mwy o ddewis i bleidleiswyr ac yn gwneud Aelodau’r dyfodol yn fwy atebol i’w hetholwyr.”
Mae’r adroddiad yn galw am ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus am y diwygiadau etholiadol, yn enwedig y system etholiadol newydd, pe bai unrhyw newidiadau i’r system bresennol yn cael eu cyflwyno.
Ehangu’r Senedd
Mae Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) hefyd yn cynnig cynyddu nifer yr Aelodau o 60 i 96.
Er bod y rhan fwyaf o’r pwyllgor yn fodlon â’r cynnig hwn, roedd un Aelod o’r farn nad oes modd cyfiawnhau unrhyw gynnydd.
Roedd tystiolaeth i’r pwyllgor yn dadlau bod cyfrifoldebau’r Senedd mewn meysydd fel trafnidiaeth, datblygu economaidd, rheilffyrdd a threthiant wedi cynyddu ers 1999, a bod angen mwy o Aelodau i ddarparu lefel dda o graffu.
Clywodd y Pwyllgor y byddai mwy o gynrychiolwyr yn gwella gallu’r sefydliad, ac yn rhoi mwy o gyfle i Aelodau’r Senedd ganolbwyntio ar feysydd penodol a datblygu gwybodaeth arbenigol.
Bydd y Bil yn cael ei drafod yn y Senedd ar Ionawr 30, pan fydd Aelodau’n pleidleisio ynghylch a fydd y Bil yn symud ymlaen i’r cam craffu nesaf.
“Er nad yw barn y Pwyllgor yn unfrydol o ran cynyddu nifer yr Aelodau, mae’r rhan fwyaf o aelodau’r Pwyllgor wedi’u darbwyllo gan y dystiolaeth bod angen diwygio, ac maen nhw o’r farn y bydd Senedd fwy o faint mewn sefyllfa well i gyflawni ei chyfrifoldebau i bobol Cymru, nawr ac yn y dyfodol,” meddai David Rees.
Y gost sydd ynghlwm wrth ehangu’r Senedd
Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd wedi craffu ar y costau sy’n gysylltiedig ag ehangu’r Senedd ers cyflwyno’r Bil y llynedd.
Er bod y Pwyllgor Cyllid yn fodlon ar y cyfan â’r costau a’r arbedion sydd wedi’u nodi, mae eu hadroddiad wedi canfod fod angen gwell modelu i geisio amcangyfrif costau penodol ac arbedion posibl y diwygiadau, yn enwedig o ystyried y gallai newidiadau i etholaethau gynyddu gwariant yr Aelodau ar gostau teithio neu lety.
Mae’r Pwyllgor hefyd yn gofidio am honiad Llywodraeth Cymru na fyddai cynyddu nifer y gweinidogion yn arwain at fwy o gostau staff, ac yn galw am fwy o dystiolaeth i gefnogi hynny.